Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Focus Wales

Natalie Jones, Rheolwr Cyswllt Artistiaid

Focus Wales yw un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr cerddoriaeth Cymru gyda dros 20,000 o fynychwyr, ac mae’n cynnig ystod enfawr o gerddoriaeth a swyddi ym maes digwyddiadau ar draws yr ŵyl, o adeiladu a rheoli llwyfan, i beirianneg sain a chysylltu gydag artistiaid a’r wasg.

Natalie Louise Jones, Rheolwr Cyswllt Artistiaid

Roedd Natalie wedi bod yn gweithio yn y sector treftadaeth ers 12 mlynedd tan i gyfle newydd ym maes digwyddiadau ei galluogi i weithio gyda’i hangerdd at gerddoriaeth fyw.

Yn Focus Wales, mae Natalie wedi datblygu o fod yn gyfrifol am sioeau unigol i reoli dros 250 o artistiaid ar gyfer yr ŵyl gyfan.

“Dw i bob amser wedi bod yn hoff o gerddoriaeth ac yn mwynhau cerddoriaeth fyw, mae ’na sîn gerddoriaeth fywiog iawn yn Wrecsam, ac mi o’n i isio bod yn rhan ohoni.

“Pan ddechreuais i gymryd rhan yn y maes digwyddiadau yn gyntaf, gwirfoddoli mewn gigs lleol o’n i, fel ffordd o gael tocyn am ddim! Mi dyfodd o hynny mewn ffordd, cododd un cyfle, cyn arwain at un arall, a rŵan dyma fy ngyrfa i.

“Dechreuais i yn rheoli sioeau, cyn datblygu i reoli llwyfan, ac yna yn rheolwr cyswllt artistiaid, sy’n swydd eitha mawr efo llawer o gyfrifoldebau. Dw i wir yn ei mwynhau.

“Mae’r holl artistiaid yn adrodd wrtha i, ac mae’r holl leoliadau’n adrodd wrtha i, a fi ydy’r cyswllt rhyngddyn nhw.

“Dw i yn y swyddfa cyn y digwyddiad, ac unwaith mae’r ŵyl yn agor bydda i’n siarad efo pawb yn gwneud yn siŵr bod pawb sy’n cymryd rhan yn gwybod lle mae angen iddyn nhw fod.

“Mae’n amrywio o lenwi amlenni yn y swyddfa i fod yn gwylio’r sioe ar ddiwedd y dydd, yn cael modd i fyw, a phopeth rhyngddyn nhw.

Wrth siarad am symud o’r maes treftadaeth i fod yn gweithio ym maes digwyddiadau, meddai Natalie: “Roedd fy ngradd BA mewn Rheolaeth Treftadaeth a fy ngradd Meistr mewn Astudiaethau Amgueddfeydd eisoes wedi rhoi profiad rheoli i fi, ac ro’n i wedi dysgu sut i ddelio efo sawl prosiect ar yr un pryd. Mae hefyd yn debyg iawn i ddigwyddiadau yn yr ystyr maen nhw’n bwydo angerdd am rannu diwylliant a phrofiadau diwylliannol.

“Yr hyn oedd yn apelio am weithio ym maes digwyddiadau oedd y ffaith eich bod chi’n cael gweithio wrth fwynhau eich hobi.

Mae gweithio ym maes digwyddiadau byw wir wedi rhoi llawer o hyder i fi, llawer mwy o hyder yn fy hunan ac yn fy ngallu. Dydy o ddim yn teimlo fel swydd, mae’n teimlo fel petaech chi’n cael caniatâd i weld tu ôl i’r llen.”

Show more

Neal Thompson, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd yr Ŵyl

Sefydlodd Neal yr ŵyl yn 2011 er mwyn dod ag artistiaid o bob rhan o’r byd i Gymru ac i roi llwyfan rhyngwladol i artistiaid o Gymru. 

“Mae digwyddiad ar y raddfa yma’n gofyn am fyddin fechan o bobl i weithio mewn gwahanol swyddi amrywiol – o gynhyrchu byw a gwaith ymarferol iawn lle mae pobl yn adeiladu llwyfannau mewn pebyll mawr tu allan, i adeiladu systemau PA, goleuo, llwyfannau ac ati.

“Mae ’na swyddi sy’n wynebu’r cyhoedd hefyd, yn gweithio efo artistiaid, staffio swyddfeydd tocynnau, gweithio mewn lleoliadau amrywiol ar draws y digwyddiad.

“Mae ’na fanteision amlwg i fod yn rhan o rywbeth fel Focus Wales, mae’r profiad ymarferol, y cyfleoedd rhyngweithio, ac ar yr ochr arall y datblygiad personol a phroffesiynol.

“Rydyn ni’n ceisio rhoi cyfle i bobl sy’n gweithio yn y digwyddiad roi cynnig ar amrywiaeth o swyddi a datblygu sgiliau trosglwyddadwy cyffredinol, sy’n ddefnyddiol mewn llawer o wahanol ddiwydiannau.

“Mae rhai o’n staff hefyd wedi cofrestru ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion ac wedi cyrraedd cyrsiau lefel Sylfaen yng Ngholeg Cambria, y coleg lleol. Focus Wales sy’n talu am y gwersi yma.

“Dw i’n credu mai’r peth gorau am weithio ym maes digwyddiadau ydy’r grŵp, y bobl rydych chi’n cael gweithio efo nhw, mae pawb yn dod at ei gilydd i wneud i rywbeth unigryw ddigwydd.

Mae rhywbeth arbennig iawn am fynd o ddechrau digwyddiad a gweld y cyfan yn datblygu, tan ei darparu hi, a gweld miloedd o bobl yn mwynhau rhywbeth rydych chi wedi helpu i’w greu, mae’n wirioneddol arbennig.”

Show more

Archwilio

I wybod mwy:

Gwyliwch y fideo


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni