Mae’r cysylltiad rhwng cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng a Gwesty Trewythen yn golygu bod y gwesty hanesyddol yng nghanol Llanidloes yn academi naturiol i brentisiaid.
Caiff prentisiaid eu croesawu i bob adran o’r gwesty rhestredig Gradd II ac i Siartwyr 1770, bwyty pedair seren y gwesty, a enillodd ddwy roséd AA yn ddiweddar, a graddiwyd y gwesty ei hun â 4 seren aur gan yr AA.
Jamie Tully, Pen-cogydd Gweithredol
Mae Jamie wedi mynd o weini ceviche a chregyn bylchog fel cogydd personol i Frenin Dubai i fentora doniau newydd yn agos at ei dref enedigol, Llanfair-ym-Muallt.
Esboniodd: “Rydyn ni ychydig yn wahanol gan mai Academi Hyfforddi ydyn ni. Mae cwmni Hyfforddiant Cambrian yn cynnig rhaglenni prentisiaeth ac mae ganddo ethos gwych o hyfforddi pobl ar draws gwahanol ddiwydiannau – lletygarwch a cheginau yn bennaf, yn gwneud cigyddiaeth neu sgiliau tebyg.
“Mae ganddon ni ein huchelgeisiau a’n nodau ein hunain yma fel bwyty a busnes arferol, ond mae prentisiaid yn rhan annatod o hynny.”
Ar hyn o bryd mae Jamie yn mentora tri phrentis – dau ar Lefel 2 ac un ar Lefel 3 – ac mae’n eiriolwr mawr dros ddull Hyfforddiant Cambrian.
Meddai: “Rydyn ni’n ceisio dyrchafu o fewn y busnes ac mae ganddon ni Chef de Partie a ddechreuodd fel prentis a dau gogydd dan hyfforddiant a ymunodd fel golchwyr llestri sydd bellach ar gynllun prentisiaeth llawn amser.
“Maen nhw'n gweithio chwe awr y dydd neu 40 awr yr wythnos, felly dydyn nhw ddim yn oriau arferol i gogydd, ond maen nhw’n oriau rheolaidd.
“Rydyn ni wedi gwasgu’r cyfan maen nhw i fod i’w ddysgu mewn blwyddyn i ddeufis. Mae popeth yn cael ei wneud 100% ar y safle, felly ni sy’n gwneud y pasta a'r bara, ac rydyn ni'n gwneud ein cigyddiaeth ein hunain ac yn paratoi’r pysgod.”
Mae Jamie a’i dîm ifanc brwdfrydig yn mwynhau creu seigiau o gynhwysion lleol a thymhorol, ac mae profiad Jamie o weithio ar gychod hwylio moethus yn amlwg yn ei fwydlenni anturus.
Meddai: “Dw i’n teimlo’n ffodus bod y maes Lletygarwch wedi rhoi gyrfa i fi lle dw i’n gallu teithio i bedwar ban byd. Dw i wedi coginio ar gyfer rhai o’r bobl gyfoethocaf ar y blaned ac wedi bod i lefydd dydy pobl ddim bob amser yn cael mynd iddyn nhw.
“Dw i’n hoffi defnyddio dylanwad bwydydd y byd yn fy seigiau, ond yn y pen draw defnyddio cynhwysion o Gymru a chefnogi ffermwyr Cymru a chyflenwyr lleol ydy fy mhrif nod, ac mae hynny’n rhywbeth rydyn ni’n ceisio ei ddysgu i’r genhedlaeth nesaf o gogyddion, gofalu am y bobl leol.”
Lesia Hudzovska, Cynorthwyydd Gwesty
Ymunodd Lesia, sy’n dod o’r Wcráin, â thîm Trewythen ym mis Hydref 2022, ar ôl symud i Brydain pan ddechreuodd y rhyfel yn ei thref enedigol, Kyiv.
Mae hi’n gwneud prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaethau Lletygarwch drwy gwmni Hyfforddiant Cambrian ac mae ei dyletswyddau fel Cynorthwyydd Gwesty yn cynnwys gweini ym mar coffi’r gwesty, gosod byrddau, gweini yn ystod amser cinio a swper, cyfarch gwesteion, helpu gyda’r broses gofrestru a glanhau.
Mae'n newid byd o'i gyrfa flaenorol ym maes Bancio a Chyllid, ond yn un mae'n ei fwynhau. Meddai: “Dw i’n ei hoffi’n fawr, oherwydd dw i’n hoffi gweithio gyda phobl a dw i’n hoffi gwneud i bobl deimlo’n hapusach. Maen nhw hefyd yn gwneud i fi deimlo'n hapus.
“Mae’r staff yn gyfeillgar iawn. Roedden nhw'n gyfeillgar o'r diwrnod cyntaf i fi gyrraedd. Felly, dw i bob amser yn teimlo fy mod yn cael cefnogaeth ganddyn nhw.
“Dw i’n teimlo bod y bobl sy’n gweithio yma yn hoff iawn o’u swydd ac maen nhw wir yn gwneud eu gorau i wneud pethau’n gyfforddus i westeion.”
Mae Llanidloes wedi dod yn lle arbennig i Lesia hefyd. “Dw i’n hoff iawn o Lanidloes fel tre, a’r adeilad hynafol yma, oherwydd yn yr Wcráin does ganddon ni ddim cymaint o hen adeiladau.
“Mae’r dre’n un eitha twristaidd, yn enwedig yn yr haf, felly rydyn ni’n disgwyl llawer o dwristiaid, llawer o bobl yma. Mae llawer o’r ystafelloedd wedi’u harchebu’n barod, felly byddwn ni’n brysur ac yn cael hwyl.
“Mae Cymru yn lle gwych – gallwch weld afonydd, llynnoedd, cerdded, marchogaeth ceffylau. Mae'n wych.”
Catherine Isaac, Cynorthwyydd Blaen y Tŷ
Mae Catherine yn mwynhau amrywiaeth ei rôl rhan amser ym mlaen y tŷ, ac yn rhannu ei hwythnos waith felly mae’n gweithio’n rhan amser rhwng Gwesty Trewythen a chwmni Hyfforddiant Cambrian.
Meddai: “Mae lletygarwch yn opsiwn gwych i unrhyw un sy’n chwilio am oriau rhan-amser. Mae'n gweithio'n dda iawn efo fy ffordd i o fyw a dw i wir yn mwynhau'r amrywiaeth yma o'i gymharu â fy swydd arall ym maes Cyllid. “Dw i’n mwynhau honno, ond mae’n gallu bod braidd yn sych, sef rhywbeth dydy’r Gwesty yn sicr ddim!
“Pan dw i yn y gwesty, dw i’n gallu dod fewn i weini brecwast a gorffen fy niwrnod am 3pm, sy’n fy siwtio i.”
Mae Catherine wedi gwneud ffrindiau am oes drwy weithio ym maes Lletygarwch ac mae'n mwynhau agwedd tîm y gwesty.
Meddai: “Mae lletygarwch yn swydd gymdeithasol – rydech chi'n ffrindiau efo'r bobl rydech chi'n gweithio efo nhw. Ryden ni’n dîm gwych. A dw i hefyd wrth fy modd yn cwrdd a siarad efo pobl newydd.
“Mae’r bobl leol hefyd wedi dechrau dod fewn i fwyta yn y bwyty hefyd. Felly dw i'n cwrdd â llawer o bobl, a dw i'n hoffi hynny'n fawr. Mae hynny a’r hyblygrwydd yn ei gwneud hi’n swydd ddelfrydol i fi.”
Archwilio
I wybod mwy:
- Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw
- Defnyddiwch wefannau swyddi i ddod o hyd i ddewis eang o swyddi gwag
- Dewch o hyd i gyflogwyr sy'n recriwtio nawr a'n bwletin swyddi i weld y swyddi gwag sydd ar gael ledled Cymru ar hyn o bryd
Gwyliwch y fideo
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Archwiliwch y gwahanol fathau o swyddi y gallwch eu gwneud ym maes lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, gan gynnwys beth mae’r swyddi’n ei gynnwys, cyflogau, cymwysterau, y sgiliau angenrheidiol a mwy.
Cymerwch olwg ar y cyflogwyr sy’n recriwtio ar hyn o bryd. Dechreuwch chwilio am swydd yma.
Prentisiaethau fel rheolwr, cogydd, ym maes gwasanaethau cwsmeriaid, cynnal a chadw tir, chwaraeon a ffitrwydd, rheoli digwyddiadau a mwy.
Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni