Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Zip World

Marni yn Zip World

Mae Zip World yn cynnig amgylchedd gwaith deinamig, bywiog ar draws ei saith safle, gyda chyfleoedd go iawn ar gyfer dilyniant gyrfa.

Mae Zip World wedi trawsnewid lleoliadau diwydiannol hanesyddol yn brofiadau antur o’r radd flaenaf, ac mae’r swyddi sydd ar gael ym mhob safle yn rhai amrywiol, o weithio ar y reidiau antur eu hunain i farchnata a chreu cynnwys fel rhan o’r tîm Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol.

Marni Burchall, Rheolydd Cyfryngau Cymdeithasol

Does dim dau ddiwrnod yr un fath i Marni, a hyfforddodd fel athrawes Ysgol Gynradd ym Mhrifysgol Bangor, cyn symud i swydd dros dro mewn gwesty lleol.

Esblygodd ei swydd yno i redeg cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y gwesty a sylweddolodd fod ganddi angerdd go iawn am gyfathrebu digidol ac adrodd straeon ar-lein.

“Cynnwys rydw i wedi’i greu ydy’r holl negeseuon Facebook ac Instagram welwch chi ar gyfryngau cymdeithasol Zip World,” meddai. “Mae lletygarwch a thwristiaeth yn cynnig gyrfa wych i unrhyw un, beth bynnag ydy’ch cefndir chi. Roedd dysgu yn cynnig sgiliau trosglwyddadwy fel cyflwyno ac ysgrifennu, sydd wedi bod yn ddefnyddiol yn y swydd yma.”

Pan nad ydy hi'n ffilmio, yn tynnu lluniau neu'n golygu a phrawfddarllen copi gwe a deunyddiau marchnata, mae Marni – sydd wedi bod yn gweithio gyda Zip World ers pum mlynedd – yn gwisgo’i gwregys ac yn cymysgu gyda rhai o’r enwogion niferus sy’n galw heibio i Zip World. Ac mae hi'n cadw cofnod ac yn cyhoeddi’r ymweliadau ar draws y cyfryngau cymdeithasol, wrth gwrs.

Ymhlith yr ymwelwyr adnabyddus, mae tîm yr Apprentice, criw Top Gear, Brenin y Jyngl Joe Swash ac Ant and Dec, y Cymro Luke Evans, Carol Vorderman a hyd yn oed Mr Tumble!

Meddai Marni: “Pan fyddwch chi'n gweithio ym maes twristiaeth, rydych chi'n cael gweld a phostio am bobl yn gwneud pethau na fydden nhw fel arall yn cael cyfle i'w gwneud.

“Rydych chi'n gweld pobl yn byw eu breuddwydion ac yn cyflawni amcanion ac mae hynny'n beth hyfryd i'w wneud drwy'r dydd.”

Meddai Marni: “Pan fyddwch chi'n gweithio ym maes twristiaeth, rydych chi'n cael gweld a phostio am bobl yn mwynhau eu hunain ac yn cael hwyl, yn ogystal â gwthio’u hunain allan o'u cylch cysur ac mae'r ymdeimlad o gyflawni ar ôl hynny yn anhygoel i'w weld.

Show more

Brett Parkinson, Goruchwylydd / Hyfforddydd Gwynt

Ymunodd Brett â Zip World yn syth o’r ysgol ddwy flynedd yn ôl, pan oedd ei ffrindiau’n mynd i’r Brifysgol ac yntau’n ansicr pa lwybr i’w gymryd.

Mae bellach yn gyfrifol am reoli pa mor gyflym mae'r reidiau'n rhedeg ac mae'n monitro cyflymder y gwynt yn rheolaidd ar safle Bethesda.

Meddai: “Dw i’n gwneud yn siŵr bod pawb yn dod i mewn yn gall ac yn ddiogel.

“Rydyn ni’n gallu mynd mewn gwyntoedd hyd at 50 milltir yr awr. Ar ddechrau pob dydd, rydyn ni’n anfon pwysau prawf i lawr y wifren wib i gael syniad sut bydd y gwesteion yn dod i lawr yn y gwynt.

“Unwaith maen nhw’n dod i lawr tuag at y gwaelod, mae’r Cyfarwyddydd Gwynt yn defnyddio gwn cyflymder tebyg i’r hyn mae’r heddlu’n ei ddefnyddio i ddal pobl sy’n goryrru ar y ffordd. Yna mi fyddwn ni’n mesur pa mor gyflym mae'r pwysau prawf yn dod i mewn i'r breciau, ac yn cofnodi hynny ar graff Excel ar y cyfrifiadur.

“Rydyn ni’n croesgyfeirio ar yr anemomedr, sy’n mesur cyflymder a chyfeiriad y gwynt i weithio allan ai cyflymu neu arafu’r gwesteion ddylen ni wneud er mwyn iddyn nhw gyrraedd gwaelod y wifren fawr yn ddiogel.”

I Brett, cwrdd â thwristiaid o bob rhan o'r byd yw uchafbwynt ei swydd.

Ar ymweliad diweddar â'r Unol Daleithiau, roedd wrth ei fodd yn cwrdd ag Americanwyr oedd wedi bod i Fethesda ac yn gwybod popeth am Zip World.

“Rydych chi'n cyfarfod cymaint o bobl o wledydd eraill,” meddai. “Dw i newydd fod yn yr Unol Daleithiau ac yn rhyfeddol, nes i gyfarfod pobl oedd wedi bod yma. Mae mor cŵl gweld faint o bobl sy’n dod yma.”

Show more

Efa Burgess, Blaen y Tŷ

Mae Efa’n edrych ymlaen at greu gyrfa hirdymor ym maes Twristiaeth, a chyn bo hir bydd hi’n dechrau hyfforddi i fod yn Oruchwylydd Blaen y Tŷ yn Zip World.

“Mae gweithio yma wedi magu fy hyder yn aruthrol,” meddai. “O’n i’n nerfus iawn fel plentyn ond mae cyswllt bob dydd efo cymaint o wahanol bobl wedi bod o help mawr efo hynny.

“Dw i wrth fy modd yn gweithio yma achos dw i’n cyfarfod cymaint o bobl. Dw i wedi gwylio'r safle yma’n cael ei adeiladu. O’n i’n gwylio’r loris yn dod â'r gwifrau i fyny drwy'r pentre pan ddechreuodd y gwaith adeiladu.

“Roedd hynny’n gyffrous a nes i erioed feddwl y byswn i’n gweithio yma.”

Pan nad hi yw’r wyneb cyfeillgar sy’n croesawu ymwelwyr i Zip World, mae Efa’n aml yn picio i ben y wifren, i brofi camerâu diogelwch neu i dawelu meddyliau unrhyw ymwelwyr nerfus mae hi wedi’u croesawu i’r safle.

Yn Zip World, mae pob tîm yn chwarae rhan mewn tîm arall pan fydd angen.

Meddai Efa: “Mae yna gymaint o amrywiaeth efo’r swydd a chyfle i symud i fyny i swyddi eraill, i drio rhywbeth gwahanol. Dw i wedi cael cefnogaeth aruthrol gan fy rheolwyr i gyd i ddatblygu fy hun a gwella fy sgiliau.

“Mae'n fy nhynnu allan o fy nghylch cysur, ond mae hynny'n beth da.”

Show more

Archwilio

I wybod mwy:

Gwyliwch y fideo


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni