Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch

Gweinyddes yn dal diod ar hambwrdd mewn bar gwesty

Ymunwch â’r rhai sy’n creu profiadau.

Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae angen mwy o staff ar y sector twristiaeth a lletygarwch.  Mae ystod enfawr o swyddi ar gael, o weithio mewn bwytai a bariau ar y traeth, i westai pum seren a chyrchfannau ymwelwyr.

Os ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phobl, gwneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o dîm, efallai bod gyrfa ym maes lletygarwch a thwristiaeth yn berffaith i chi.

Byddwch chi’n rhan fawr o wireddu profiadau pwysig - boed hynny’n noson fawr allan, aduniad teuluol, penwythnos ar y traeth, neu ddathlu llwyddiant gyda ffrindiau. A gallwch ddisgwyl rhywbeth gwahanol bob dydd.

Bydd galw mawr amdanoch chi

Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector. Ar gyfartaledd, mae dros 4000 o swyddi gweigion yn cael eu postio ar-lein bob mis yng Nghymru. (LightcastTM,,Tachwedd 2022 i Ebrill 2023)

Y 10 prif swydd a hysbysebwyd ar-lein ym maes twristiaeth a lletygarwch dros y 6 mis diwethaf yw: 

  • Cynorthwywyr cegin ac arlwyo
  • Prif gogyddion
  • Staff gweini
  • Staff bar 
  • Rheolyddion arlwyo a bar
  • Cogyddion
  • Cynorthwywyr chwaraeon a hamdden
  • Rheolydd bwytai
  • Rheolydd gwesty
  • Cynorthwywyr parciau hamdden a thema

(Ffynhonnell: (LightcastTM,Mai 2023)

Ble mae dod o hyd i swyddi ym maes lletygarwch, hamdden a thwristiaeth

Os ydych chi’n meddwl bod swydd ym maes twristiaeth a lletygarwch yn addas i chi, boed hynny ddim ond am yr haf neu’n rhan o’ch cynlluniau gyrfa hirdymor, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud:

  • Edrychwch am gyfleoedd yn eich ardal leol – mae llawer o fusnesau’n hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed yn rhoi arwyddion yn eu ffenestri
  • Galwch heibio i westai, bwytai a bariau cyfagos i gyflwyno’ch hunan a gadael CV
  • Cysylltwch â chynghorydd Cymru'n Gweithio i gael sgwrs am eich dyfodol
  • Cymerwch olwg ar y dolenni isod
Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni


Straeon go iawn

Dewch i gwrdd â phobl go iawn sy’n creu profiadau.

Stori Focus Wales

Focus Wales yw un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr cerddoriaeth Cymru gyda dros 20,000 o fynychwyr, ac mae’n cynnig ystod enfawr o gerddoriaeth a swyddi ym maes digwyddiadau ar draws yr ŵyl, o adeiladu a rheoli llwyfan, i beirianneg sain a chysylltu gydag artistiaid a’r wasg.

Stori Zip World

Mae Zip World yn cynnig amgylchedd gwaith deinamig, bywiog ar draws ei saith safle, gyda chyfleoedd go iawn ar gyfer dilyniant gyrfa.

Stori Trewythen

Mae’r cysylltiad rhwng cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng a Gwesty Trewythen yn golygu bod y gwesty hanesyddol yng nghanol Llanidloes yn academi naturiol i brentisiaid.

Stori Parc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone

Mae staff Bluestone wedi gallu symud ymlaen o’u swyddi rhan-amser i ddilyn gyrfaoedd amser llawn boddhaus wrth gael eu cefnogi gan hyfforddiant cynhwysfawr a chynlluniau prentisiaethau.

Stori Folly Farm

Gan ganolbwyntio ar ddatblygu pobl mewn rolau sy’n addas i’w diddordebau, mae’r atyniad llwyddiannus yma yn un enghraifft o blith llawer o’r cyfleoedd gyrfaol amrywiol sydd i’w cael yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.

Stori Celtic Manor

Gall gyrfa ym maes lletygarwch eich cyflwyno i fyd newydd o gyfleoedd os ydych chi’n awyddus i ymuno â’r daith.

Stori The Grove

Gweithwyr yn The Grove, sef gwesty a bwyty mewn tŷ gwledig yn Arberth, Sir Benfro, sy’n sôn am eu profiadau o weithio yn y diwydiant ac yn rhannu’r manteision niferus sydd ar gael.

Stori Dylan's

Mae aelodau staff Dylan's yn esbonio sut maen nhw wedi gallu tyfu'n broffesiynol ac yn bersonol yn ystod eu hamser yn gweithio yno.


Archwilio

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.

Sut mae ysgrifennu CV

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.