Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Adolygiad canol gyrfa

4 person gwahanol mewn lleoliadau gwaith gwahanol

Yn ystyried newid gyrfa ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Dechreuwch trwy archebu adolygiad canol gyrfa am ddim.

Gall adolygiad gyrfa eich helpu i ddechrau archwilio’ch syniadau a meddwl am bosibiliadau newydd, beth bynnag fo’ch oedran neu’r rheswm dros newid gyrfa, a allai gynnwys y canlynol:

  • Chwilio am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Cynllunio dychwelyd i'r gwaith ar ôl gofalu am eraill
  • Agosáu at ymddeol ac yn poeni am gyllid neu ddim eisiau rhoi'r gorau i weithio yn gyfan gwbl
  • Dilyniant gyrfa
  • Gweithio mewn sector sy'n crebachu ac angen arallgyfeirio
  • Newid mewn iechyd
  • Eisiau gwireddu gyrfa ddelfrydol
  • Troi hobi yn yrfa

Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, gall ein cynghorwyr gyrfa profiadol sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol ddarparu arweiniad a hyfforddiant gyrfa diduedd am ddim. Gyda'n gilydd, gallwn drafod eich opsiynau i ddechrau gwneud newidiadau yn eich gyrfa.

Gallwn helpu gyda'r canlynol:

  • Trafod eich syniadau
  • Nodi eich sgiliau a'ch profiadau trosglwyddadwy i symud ymlaen i yrfa newydd
  • Dod o hyd i gyllid ar gyfer hyfforddiant os oes angen i chi wella'ch sgiliau a'ch cymwysterau
  • Mynediad i asesiad seicometrig rhad ac am ddim os bernir ei fod yn briodol i helpu i lywio eich dewisiadau gyrfa posibl
  • Darparu gwybodaeth i chi am y farchnad lafur, i weld swyddi a gyrfaoedd y mae galw amdanynt
  • Paru swyddi – eich cysylltu â chyflogwyr sy'n lleol i chi a allai fod angen eich sgiliau, cymwysterau, neu brofiad
  • Rhoi mynediad uniongyrchol i amrywiaeth o swyddi lleol i chi, trwy ein bwletin swyddi wythnosol
  • Dod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt gan gynnwys help gyda CVs, a ffurflenni cais
  • Awgrymiadau defnyddiol a thechnegau cyfweld
  • Dod o hyd i gymorth a'ch helpu i gael mynediad at becyn cymorth
Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Cysylltwch i drefnu eich adolygiad canol gyrfa rhad ac am ddim.


Offer i'ch helpu i gychwyn arni

Awyddus i ddechrau arni nawr? Does dim rhaid i chi aros am eich adolygiad gyrfa i ddechrau archwilio eich camau nesaf. Darganfyddwch offer a gwybodaeth ddefnyddiol i'ch rhoi ar ben ffordd.

Archwiliwch opsiynau gyrfa

Oepsiynau ar gyfer newid gyrfa

Camau i'w cymryd tuag at newid eich gyrfa.

Gwybodaeth am Swyddi

Dysgwch beth mae swydd yn ei olygu, beth yw’r cyflog, sut i fynd i mewn, y galw yn y dyfodol, a rhagor.

Cwis Paru Gyrfa

Dewch o hyd i syniadau am swyddi sy'n paru eich sgiliau a'ch diddordebau.

Diweddaru eich sgiliau

Ailgrewch eich gyrfa gyda Chyfrif Dysgu Personol

Cael cyllid ar gyfer hyfforddiant gyda Chyfrif Dysgu Personol.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra a all gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygiad Personol i'ch helpu i newid eich gyrfa.

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Chwilio am waith

Cyngor ynglŷn â gwaith

Help gydag ysgrifennu CV, llythyrau cais, technegau cyfweld, dod o hyd i swyddi a mwy.

Cyflogwyr yn recriwtio nawr

Yn meddwl tybed beth sydd ar gael? Darganfyddwch gyflogwyr sy'n recriwtio nawr.

Bwletin swydd

Tanysgrifiwch i'n bwletin swydd a derbyniwch wybodaeth am gannoedd o swyddi gwag ledled Cymru, yn syth i'ch mewnflwch.

Cael mwy o gymorth

Y camau cyntaf i hunangyflogaeth

Manteision ac anfanteision hunangyflogaeth a ble i gael cymorth pellach wrth sefydlu busnes.

Cymorth cyflogaeth

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Canfod Cymorth

Chwiliwch am raglenni a all eich helpu i wella'ch sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith.


Cewch eich ysbrydoli

Gweld sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu gyrfa.

Stori Martin

Martin yn profi y gallwch ddysgu sgiliau newydd beth bynnag eich oedran.

Stori Frances

Gwnaeth cadw ei sgiliau yn gyfredol helpu Frances i symud i yrfa newydd.

Stori Sue

Mae Sue yn ffynnu ar ôl newid gyrfa.