Yn ystyried newid gyrfa ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Dechreuwch drwy drefnu adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.
Beth yw adolygiad gyrfa?
Gall adolygiad gyrfa eich helpu i ddechrau archwilio’ch syniadau a meddwl am bosibiliadau newydd, beth bynnag fo’ch oedran neu’r rheswm dros newid gyrfa, a allai gynnwys y canlynol:
- Chwilio am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Cynllunio dychwelyd i'r gwaith ar ôl gofalu am eraill
- Agosáu at ymddeol ac yn poeni am gyllid neu ddim eisiau rhoi'r gorau i weithio yn gyfan gwbl
- Dilyniant gyrfa
- Gweithio mewn sector sy'n crebachu ac angen arallgyfeirio
- Newid mewn iechyd
- Eisiau gwireddu gyrfa ddelfrydol
- Troi hobi yn yrfa
Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, gall ein cynghorwyr gyrfa profiadol sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol ddarparu arweiniad a hyfforddiant gyrfa diduedd am ddim. Gyda'n gilydd, gallwn drafod eich opsiynau i ddechrau gwneud newidiadau yn eich gyrfa.
Gallwn helpu gyda'r canlynol:
- Trafod eich syniadau
- Nodi eich sgiliau a'ch profiadau trosglwyddadwy i symud ymlaen i yrfa newydd
- Dod o hyd i gyllid ar gyfer hyfforddiant os oes angen i chi wella'ch sgiliau a'ch cymwysterau
- Darparu gwybodaeth i chi am y farchnad lafur, i weld swyddi a gyrfaoedd y mae galw amdanynt
- Paru swyddi – eich cysylltu â chyflogwyr sy'n lleol i chi a allai fod angen eich sgiliau, cymwysterau, neu brofiad
- Rhoi mynediad uniongyrchol i amrywiaeth o swyddi lleol i chi, trwy ein bwletin swyddi wythnosol
- Dod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt gan gynnwys help gyda CVs, a ffurflenni cais
- Awgrymiadau defnyddiol a thechnegau cyfweld
- Dod o hyd i gymorth a'ch helpu i gael mynediad at becyn cymorth
Offer i'ch helpu i gychwyn arni
Awyddus i ddechrau arni nawr? Does dim rhaid i chi aros am eich adolygiad gyrfa i ddechrau archwilio eich camau nesaf. Darganfyddwch offer a gwybodaeth ddefnyddiol i'ch rhoi ar ben ffordd.
Archwiliwch opsiynau gyrfa

Camau i'w cymryd tuag at newid eich gyrfa.

Dysgwch beth mae swydd yn ei olygu, beth yw’r cyflog, sut i fynd i mewn, y galw yn y dyfodol, a rhagor.

Dewch o hyd i syniadau am swyddi sy'n paru eich sgiliau a'ch diddordebau.
Diweddaru eich sgiliau

Cael cyllid ar gyfer hyfforddiant gyda Chyfrif Dysgu Personol.

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.
Chwilio am waith

Help gydag ysgrifennu CV, llythyrau cais, technegau cyfweld, dod o hyd i swyddi a mwy.

Yn meddwl tybed beth sydd ar gael? Darganfyddwch gyflogwyr sy'n recriwtio nawr.

Tanysgrifiwch i'n bwletin swydd a derbyniwch wybodaeth am gannoedd o swyddi gwag ledled Cymru, yn syth i'ch mewnflwch.
Cael mwy o gymorth

Manteision ac anfanteision hunangyflogaeth a ble i gael cymorth pellach wrth sefydlu busnes.

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Chwiliwch am raglenni a all eich helpu i wella'ch sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith.
Cewch eich ysbrydoli
Gweld sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu gyrfa.

Mae Peter yn defnyddio profiadau bywyd i ddechrau ail-lunio ei yrfa.

Roedd mynd trwy adolygiad gyrfa yn helpu Ian i symud i swydd newydd ar ôl colli ei swydd.

Roedd angen cymorth ar Lia i ddod o hyd i swydd newydd a oedd yn caniatáu cydbwysedd hyblyg rhwng bywyd a gwaith.

Cafodd Lee adolygiad gyrfa i'w helpu i bontio o'r fyddin.

Cynorthwyodd cymorth gyrfa Natalie i droi’r diddordeb angerddol yr oedd ganddi yn ystod ei phlentyndod yn realiti gyrfa yn ei phum degau.