Mae cymwysterau newydd yn helpu Tiago i symud tuag at ddechrau newydd.
Mae Tiago, 33 oed, yn byw yng Nghasnewydd. Ar ôl pedair blynedd yn ei rôl flaenorol, cafodd ei ddiswyddo’n annisgwyl ac roedd angen iddo feddwl am ei gamau nesaf.
Dywedodd: “Digwyddodd y cyfan yn eithaf cyflym. Doedd gen i ddim amser i baratoi mewn gwirionedd”
Roedd Tiago eisiau cymryd camau ymarferol i wella ei obaith o ddod o hyd i waith eto cyn gynted â phosibl. Gwnaeth apwyntiad gyda’i Ganolfan Waith leol. Yno, cafodd wybod am gyllid sydd ar gael drwy’r raglen ReAct+. Cysylltodd â Cymru’n Gweithio am gyngor ar unwaith.
Archwilio cefnogaeth
Cyfarfu â Kris, cynghorydd gyrfa, i drafod ei opsiynau.
Esboniodd Tiago: “Ar y dechrau, doeddwn i ddim wir yn gwybod pa gymorth oedd ar gael. Roedd gen i rai syniadau mewn golwg ynglŷn â’r hyn roeddwn i eisiau ei wneud, ond roeddwn i eisiau deall beth fyddai’n rhoi’r cyfle gorau i mi fynd yn ôl i’r gwaith.”
Yn yr apwyntiadau, gwnaethant drafod y gwahanol lwybrau hyfforddi a pha gymwysterau fyddai’n arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth.
Dywedodd Tiago: “Roedd Kris yn gymwynasgar iawn. Pe bai gen i unrhyw gwestiynau, byddwn i’n cael ateb cyflym.
“Oni bai am Kris, mae’n debyg y byddwn i’n dal i fod yn yr un man yn tynnu fy ngwallt allan yn chwilio am swydd.”
Dewis yr hyfforddiant cywir
Ar ôl trafod ei opsiynau gyda Kris, penderfynodd ganolbwyntio ar ennill cymwysterau a fyddai’n agor cyfleoedd newydd.
Dewisodd wneud cais am drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) i symud i’r sector diogelwch. Ochr yn ochr â hyn, cofrestrodd ar hyfforddiant gweithredwr teledu cylch cyfyng i ehangu ei sgiliau.
Dywedodd Tiago: “Mae’n swydd arbenigol, felly mae llai o gystadleuaeth os yw’r cymwysterau cywir gennych chi.”
Ychwanegodd: “Bydd y cwrs hwn yn agor llawer o ddrysau i mi.”
Edrych tua’r dyfodol
Mae disgwyl i Tiago ddechrau ei hyfforddiant yn fuan ac mae’n teimlo’n bositif am y dyfodol.
Dywedodd: “Rwy’n llawn cyffro i ddechrau arni. Dydw i ddim yn y math o unigolyn i eistedd gartref a gwneud dim byd. Bydd hyn yn rhoi rhywbeth cadarn i mi ar ei ddiwedd. Mae’n mynd i wneud gwahaniaeth mawr.”
Os ydych chi wedi colli eich swydd, ewch i’n tudalen cymorth ar ôl colli swydd, neu cysylltwch â ni.
Archwilio
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.
Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni