Wyt ti am gael mynediad at gyrsiau ar-lein hyblyg a rhan-amser ac ail-lunio dy yrfa?
Wyt ti dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth sy'n ennill llai na £29,534 y flwyddyn, neu a yw dy swydd mewn perygl? Mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych o gael mynediad at astudio rhan-amser ar gyrsiau penodol. Gallwn ni dy helpu ar gam nesaf dy stori lwyddiant.
Beth yw Cyfrif Dysgu Personol?
Bydd Cyfrif Dysgu Personol yn dy alluogi di i astudio cyrsiau hyblyg, rhan-amser o amgylch dy gyfrifoldebau presennol. Bydd yn dy alluogi di i ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnat i newid gyrfa a dechrau ar lwybr newydd.
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu dysgu hyblyg wedi'i ariannu'n llawn, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Byddi di’n gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i'th helpu i ddatblygu dy yrfa bresennol neu ei newid yn gyfan gwbl.
Mae'r holl gyrsiau sy’n cael eu cynnig drwy Gyfrif Dysgu Personol yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Beth yw'r gofynion cymhwysedd?
Byddwn yn gwirio dy gymhwysedd pan fyddi di’n gwneud cais.
Rhaid i ti:
- Fyw yng Nghymru
- Fod eisiau ennill sgiliau/cymwysterau mewn sectorau â blaenoriaeth
- Fod yn 19 oed neu’n hŷn
Yn ogystal, rhaid i ti fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- Bod mewn cyflogaeth (gan gynnwys hunangyflogedig) gan ennill o dan yr incwm canolrifol (£29,534), neu
- Gweithiwr ar gontract dim oriau, neu
- Staff asiantaeth, neu
- Mewn perygl o golli dy swydd, neu
- Mewn cyflogaeth ac mae'r economi wedi effeithio'n negyddol ar hynny, er enghraifft y diwydiant lletygarwch
I gael gwybodaeth lawn am gymhwysedd cer i Cyfrifon Dysgu Personol.
Sut ydw i’n gwneud cais am Gyfrif Dysgu Personol?
Mae'r broses ymgeisio yn hawdd ac yn syml. Mae'n cynnwys cyfweliad digidol gyda chynghorydd gyrfa profiadol Cymru’n Gweithio cyn i ti gael dy dderbyn. Bydd y cynghorydd gyrfa yn rhoi cyfle i ti drafod dyheadau a nodau gyrfa a gwneud yn siŵr mai'r cwrs yw'r llwybr cywir i ti. Cysyllta â ni i drefnu cyfweliad.
Gelli di hefyd gysylltu â cholegau'n uniongyrchol.
Ble gallaf i ddefnyddio Cyfrif Dysgu Personol?
Mae colegau ledled Cymru yn cynnig cyrsiau drwy'r Cyfrif Dysgu Personol:
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith