Dim ond dechrau dy stori yw dy ganlyniadau.
P’un a wyt wedi gwneud yn well na’r disgwyl neu dy fod heb wneud cystal ag oeddet wedi’i obeithio ac angen cyngor ar dy gamau nesaf, gallwn ni dy helpu.
Beth bynnag eich canlyniadau, gall Cymru'n Gweithio, a gyflwynir gan Gyrfa Cymru, roi'r cymorth a'r cyngor diduedd, am ddim sydd eu hangen arnoch chi.
Drwy'r Warant i Bobl Ifanc, gallwn gefnogi pobl ifanc 16 – 24 oed drwy eu helpu i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig. Mae'r warant wedi'i chynllunio i roi help llaw.
Cysylltwch â ni neu cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod mwy.
Archwilio eich opsiynau a dechrau dy stori

Ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael eich talu. Dewch i wybod mwy am brentisiaethau a chwilio am swyddi gwag.

Gwasanaeth cynghori yn y gymuned sy'n helpu'r rhai nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant ac sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i gael gwaith yw Cymunedau am Waith.

Bydd bod â hyder yn eich cwrs yn eich cymell i gwblhau eich astudiaethau a gwneud yn dda. Mynnwch gymorth gyda'ch opsiynau a mwy.

Mae dewis y cwrs iawn a’r brifysgol iawn yn bwysig a gallwn eich helpu gyda hyn. Gallwn hefyd gynnig cymorth ar bethau fel dod o hyd i gymorth ariannol a’r broses Glirio.

Gwybodaeth am ble i chwilio am swyddi, cofrestru ar gyfer ein bwletin swyddi, cael help gyda CVs, ceisiadau a chyfweliadau.

Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i'ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.

Grant newydd yw ReAct+ ac mae'n rhan o'r Warant Pobl Ifanc. Gall cymorth gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth gyda Datblygiad Personol.

Os ydych chi'n ystyried dechrau eich busnes eich hun a'ch bod yn 25 oed neu'n iau, yna mynnwch yr help sydd ei angen arnoch drwy Syniadau Mawr Cymru.

Gall gwirfoddoli wella eich rhagolygon gwaith a rhoi cyfle i chi helpu eraill.
Efallai ei bod wedi bod hyd yn oed yn anoddach archwilio'ch opsiynau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gallwn eich helpu i ddechrau eich stori.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Ffair gyrfaoedd Cymru'n Gweithio yn helpu Nia, sy'n 16 oed ac yn dod o Abertyleri, i gynllunio ei dyfodol ar ôl TGAU.

Tyfu i fyny gydag 11 o frodyr a chwiorydd yn ysbrydoli Cerys i fod yn fydwraig.

Mae Maddox yn gobeithio dilyn ei freuddwyd Formula One ers iddo fod yn blentyn.

Charlie yn profi y gall ailsefyll blwyddyn fod yn fendith gudd.

Arhosodd Poppy, sy’n 17 oed, ymlaen yn y chweched dosbarth i barhau a’i hastudiaethau ac mae’n gobeithio astudio dramor yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn nesaf i ddechrau ar yrfa ryngwladol.

Cafodd y pandemig effaith fawr ar fy uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol...

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.
Archwilio

Os ydych yn gadael yr ysgol, dewch i wybod sut, fel cyn-ddisgybl, y gallwch chi helpu disgyblion yn eich hen ysgol.