Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cymunedau am Waith a Mwy

Beth yw Cymunedau am Waith a Mwy? 

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu cefnogaeth ymgynghorol, cyflogaeth arbenigol a mentora dwys i bobl sydd â'r hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig. Rhaid i chi fod yn 20 oed neu'n hŷn, yn byw yng Nghymru ac nid mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, a bod â rhwystr cymhleth i gyflogaeth.

Gall Cymunedau am Waith a Mwy ddarparu cefnogaeth i helpu i fagu hyder, ennill rhywfaint o brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ail-ysgrifennu eich CV. Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn eich helpu chi fel unigolyn a byddant yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol.

Beth yw manteision Cymunedau am Waith a Mwy?

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen wirfoddol, sy'n cynnig cymorth, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant ynghylch dod o hyd i waith, trwy gyngor 1-i-1 gan dîm o fentoriaid ymroddedig.

Sut mae’n gweithio? 

Bydd gennych fentor eich hun a fydd yn cwrdd â chi mewn lleoliad cyfleus, sy’n lleol i chi. Byddant yn dod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch pan fyddant yn cwrdd â chi ac yn cytuno ar y camau nesaf. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ymuno â Chymunedau am Waith a Mwy, chi sydd i benderfynu a yw Cymunedau am Waith a Mwy ar eich cyfer chi yn dilyn eich cyfarfod gyda’ch mentor. Os byddwch chi’n penderfynu ymuno â Chymunedau am Waith a Mwy, bydd eich mentor yn trefnu i gwrdd â chi neu yn cysylltu â chi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnoch i'ch galluogi i ddechrau gweithio.

Mae gennyf ddiddordeb mewn Cymunedau am Waith a Mwy. Beth sydd angen i fi ei wneud? 

Cysylltwch â chynghorydd Cymru'n Gweithio a fydd yn trafod eich anghenion gyda chi.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.