Porthi’ch positifrwydd gyda Gwarant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru.
Mae’r Gwarant i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i rai dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.
Mae’r warant wedi’i datblygu i roi help llaw i chi a gall ddarparu cymorth gyda:
- Dewis y cwrs iawn
- Dod o hyd i brentisiaeth
- Chwilio am swydd a chymorth drwy'r broses ymgeisio
- Dechrau eich busnes eich hun
Cysylltwch â ni neu cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy.
Opisynau

Bydd bod â hyder yn eich cwrs yn eich cymell i gwblhau eich astudiaethau a gwneud yn dda. Mynnwch gymorth gyda'ch opsiynau a mwy.

Mae dewis y cwrs iawn a’r brifysgol iawn yn bwysig a gallwn eich helpu gyda hyn. Gallwn hefyd gynnig cymorth ar bethau fel dod o hyd i gymorth ariannol a’r broses Glirio.

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Gwybodaeth am ble i chwilio am swyddi, cofrestru ar gyfer ein bwletin swyddi, cael help gyda CVs, ceisiadau a chyfweliadau.

Os ydych chi'n ystyried dechrau eich busnes eich hun a'ch bod yn 25 oed neu'n iau, yna mynnwch yr help sydd ei angen arnoch drwy Syniadau Mawr Cymru.

Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i'ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi’u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygu Personol er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eich rhwystro rhag cael swydd.

Cefnogaeth cyflogaeth arbenigol i bobl sydd mewn, neu mewn perygl o dlodi, ac sydd heb fod yn gymwys i ymuno â rhaglenni rhanbarthol eraill.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu a ni
Cefnogaeth ychwanegol

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Mae Fy Nyfodol yn cynnwys gwybodaeth gyrfaoedd hawdd ei darllen. Dysgwch am eich opsiynau, archwiliwch syniadau gyrfa a dewch i wybod pwy all eich helpu.

Cyllid ar gael yng Nghymru ar gyfer cyrsiau hyfforddi, colegau a phrifysgolion.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith
Straeon canlyniadau

Sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori.