Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Gwarant i Bobl Ifanc

Llun yn dweud 'Bydd bositif gyda'r warant i bobl ifanc i 16-24 oed' wrth ymyl person ifanc gyda'i ddwylo wedi'i ymestyn

Ydych chi rhwng 16 a 24 oed? Ddim yn siŵr beth yw eich opsiynau neu beth yw eich camau nesaf? Peidiwch poeni, mae cyfleoedd o bob math ar gael ichi.

Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i bawb rhwng 16 a 24  oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg, hyfforddiant neu ar brentisiaeth, neu i ddod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig.

Mae'r warant yn darparu cymorth gyda:

  • Dewis y cwrs iawn
  • Dod o hyd i brentisiaeth
  • Chwilio am swydd a chymorth drwy'r broses ymgeisio
  • Dechrau eich busnes eich hun

Ystyriwch eich opsiynau isod neu cysylltwch ag un o’n cynghorwyr hyfforddedig a dechrau adeiladu’r dyfodol rydych chi ei eisiau heddiw!

Beth am drefnu apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa i drafod eich syniadau neu ddechrau chwilio am raglenni ar Canfod Cymorth i'ch helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd.


Opsiynau

Addysg uwch - prifysgol

Mae dewis y cwrs iawn a’r brifysgol iawn yn bwysig a gallwn eich helpu gyda hyn. Gallwn hefyd gynnig cymorth ar bethau fel dod o hyd i gymorth ariannol a’r broses Glirio.

Prentisiaethau

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Cael swydd

Gwybodaeth am ble i chwilio am swyddi, cofrestru ar gyfer ein bwletin swyddi, cael help gyda CVs, ceisiadau a chyfweliadau.

Twf Swyddi Cymru+

Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i'ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Cymunedau am Waith a Mwy

Cefnogaeth cyflogaeth arbenigol i bobl sydd mewn, neu mewn perygl o dlodi, ac sydd heb fod yn gymwys i ymuno â rhaglenni rhanbarthol eraill. 


Cymorth lles

Rydyn ni'n gwybod y gall pethau fod yn anodd o ran straen, yn enwedig adeg canlyniadau. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n bryderus, ac yn teimlo pwysau i gael y graddau rydych eu hangen, ond dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae yna lawer o sefydliadau i'ch helpu a'ch cefnogi, fel:

Mae cefnogaeth hefyd ar gael gan Mind Cymru, Hopeline247 - Papyrus (dolen Saesneg) a Samariaid Cymru.

Mae Cymru’n Gweithio yma i helpu hefyd. Sgwrsiwch â ni ar y we neu galwch heibio'ch swyddfa agosaf i siarad â'n staff.

Cefnogaeth ychwanegol

Cymorth cyflogaeth

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Fy Nyfodol

Mae Fy Nyfodol yn cynnwys gwybodaeth gyrfaoedd hawdd ei darllen. Dysgwch am eich opsiynau, archwiliwch syniadau gyrfa a dewch i wybod pwy all eich helpu.

Canfod cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith


Straeon go iawn