Oeddet ti’n gwybod bod y ci’n breuddwydio amdanat ti pan fydd yn cysgu? Neu fod morfeirch yn priodi? Os gwnaeth hynny i ti wenu, yna mae gennym ni newyddion gwell fyth! Gall Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru eich helpu i feithrin agwedd bositif.
Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn helpu pawb dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i gael cymorth i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig.
P’un a ydych angen cyngor ynghylch dewis y cwrs coleg cywir, dod o hyd i brentisiaeth, ysgrifennu CV neu ddechrau eich busnes eich hun, gall y Warant gynnig yr help sydd ei angen arnoch i ddechrau arni neu i newid eich stori.
Cysylltwch â ni neu cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

Wyt ti rhwng 16-18 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.

Ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael eich talu. Dewch i wybod mwy am brentisiaethau a chwilio am swyddi gwag.

Os ydych chi'n ystyried dechrau eich busnes eich hun a'ch bod yn 25 oed neu'n iau, yna mynnwch yr help sydd ei angen arnoch drwy Syniadau Mawr Cymru.
Pan mae pethau’n mynd o chwith, rho gynnig arall arni a chofia ddal ati. Mae’n bwysig dyfalbarhau a meddwl am sut y gelli di wella, a sut y gelli di ailgydio ym mhethau.”
Dan Huxtable – Perchennog a Phrif Ddylunydd yn Fightwear Store

Dewch i wybod ble i chwilio am swyddi, sut i gael help gyda CVs, ceisiadau, cyfweliadau a mwy...

Bydd bod â hyder yn eich cwrs yn eich cymell i gwblhau eich astudiaethau a gwneud yn dda. Mynnwch gymorth gyda'ch opsiynau a mwy.

Mynd i'r brifysgol? Dewch i wybod am gymorth ariannol, y broses glirio a mwy...
Rydw i wrth fy modd yn dysgu sgiliau newydd a braf oedd gwybod y gallwn daflu fy hun mewn i swydd lle nad oedd yr holl gymwysterau priodol gen i ar ei chyfer.”
Phoebe Christie – Chef Cynnyrch Crwst yn Coffi Co.

Cymorth ariannol ar gyfer ailhyfforddi os ydych chi wedi colli eich swydd, neu wedi dod yn ddi-waith yn ystod y 12 mis diwethaf neu os ydych chi o dan rybudd diswyddo.

Os gofal plant yw’r prif beth sy’n eich rhwystro rhag dechrau gwaith, mae cymorth ar gael gyda PaCE.

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.
Fy nod nesaf yw prynu fy nhŷ fy hun, ac rwy’n cynilo er mwyn i mi allu camu ar yr ysgol eiddo. Mae bod â swydd lle rwy’n gwybod bod cyfle i mi ddatblygu ymhellach yn golygu fy mod yn dod yn nes at y nod hwnnw bob dydd.”
Kirtis Letman – Goruchwyliwr Llawr yn Coffi Co.
Efallai ei bod wedi bod hyd yn oed yn anoddach archwilio'ch opsiynau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gallwn eich helpu i ddechrau eich stori.
Paratoi ar gyfer swydd

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Cewch wybod beth i'w ysgrifennu mewn llythyr cais neu e-bost.

Rydych yn dal i allu dod o hyd i swyddi gwag yn ystod y cyfnod anodd hwn. Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith