Newid dy stori - gyda hyfforddiant fforddiadwy
Peidiwch â gadael i bryderon ariannol eich dal chi’n ôl.
Mae arian ar gael, sy’n seiliedig ar eich amgylchiadau personol. O dan ein harweiniad ni, gallwch ganolbwyntio ar ddewis yr hyfforddiant gorau.
Cysylltwch â ni neu cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

Cyllid ar gael yng Nghymru ar gyfer cyrsiau hyfforddi, colegau a phrifysgolion.

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Gwnewch eich stori lwyddiant drwy ail-greu eich gyrfa gyda Chyfrif Dysgu Personol.

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.

Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i ddarganfod mwy am gyllid myfyrwyr ar gyfer coleg a phrifysgol.

Ennill cyflog tra'n gweithio a chael cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy'n benodol i swydd.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.