Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Ethan E

Llun o Ethan

Gwellodd Ethan ei sgiliau cyfweliad gyda Gyrfa Cymru a daeth o hyd i brentisiaeth iddo’i hun.

Dewis arall yn lle’r ysgol

Ar ôl penderfynu peidio â pharhau â’i astudiaethau Safon Uwch, roedd Ethan, sy’n 18 oed ac yn byw yn y Coed-duon, yn ansicr ynghylch ei gamau nesaf. Gadawodd yr ysgol  a chymerodd swydd ran amser yn Greggs wrth archwilio cyfleoedd a oedd yn gweddu’n well i’w ddiddordebau.

Meddai Ethan: “Sylwais i ar rai cyfleoedd prentisiaeth gyda Chyngor Casnewydd, felly dechreuais i wneud cais amdanyn nhw.”

Cymorth gan Gyrfa Cymru

Argymhellodd mam Ethan, a oedd wedi defnyddio Gyrfa Cymru yn y gorffennol, y dylai geisio cefnogaeth.

Dywedodd: “Pan ges i gyfweliad gyda Chyngor Casnewydd, gwnaeth mam fy rhoi mewn cysylltiad â Kerry, a helpodd fi i baratoi ar gyfer fy nghyfweliad. Aeth hi dros y disgrifiad swydd gyda fi a chynhaliodd hi ffug gyfweliad i fy helpu i deimlo’n fwy parod.”

Rhoddodd Kerry, sy’n gynghorydd gyrfa yng Nglynebwy, gynghorion defnyddiol i Ethan ar sut i wella ei sgiliau cyfweliad.

Meddai Ethan: “Ro’n i wedyn yn gallu ymlacio mwy. Ro’n i wedi ymbaratoi’n well oherwydd fe wnaethon ni’r ffug gyfweliad a ches i gwestiynau tebyg yn y cyfweliad go iawn. Felly fe helpodd hynny dipyn gyda fy nerfusrwydd i ar y diwrnod.”

Dechrau prentisiaeth

Gyda chymorth Kerry, cafodd Ethan y brentisiaeth gyda Chyngor Casnewydd.

“Rwy’n neud prentisiaeth sy’n cael ei darparu gan hyfforddiant ACT, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn y maes gwasanaeth tai a chymunedau. Gwaith gweinyddol yw hwn yn bennaf, ond rwy’n cael gweithio gyda thimau a meysydd gwasanaeth amrywiol yn ogystal â bod yn bresennol yng nghyfweliadau cymorth tai. Mae’n rhoi boddhad oherwydd rwy’n cael gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed a’u helpu nhw."

Rhannodd Ethan ei gynllun gyrfa: “Rwy’n meddwl fy mod i eisiau aros gyda’r cyngor am ychydig mwy o flynyddoedd a gweithio fy ffordd i fyny’r ysgol. Efallai ymestyn allan i feysydd gwasanaeth eraill a gweithio tuag at rolau rheoli. Am y tro, rwy’n canolbwyntio ar orffen fy mhrentisiaeth i ym mis Mawrth 2025.”


Archwilio

Prentisiaethau

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.


Darllen mwy o straeon go iawn

Stori Laura

Gadawodd Laura Green yr ysgol ar ôl ei TGAU a dechreuodd ei phrentisiaeth ddwy flynedd wedi hynny...

Stori Daren

Mae Daren, y rheolwr, wedi bod yn llwyddiannus iawn drwy gwblhau prentisiaeth...

Stori Safyan

Dywed Safyan, sydd yn Brentis Creadigol, taw ei brentisiaeth yn ITV yw profiad gorau ei fywyd...