Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Dysgu sgiliau newydd

Benyw yn dysgu sgiliau newydd mewn cwmni peirianneg

Fe allwn ni eich helpu os ydych yn teimlo nad yw’r sgiliau iawn gennych i gael y swydd o’ch dewis.

Fe fydd ein harbenigwyr yn gweithio gyda chi i ganfod pa sgiliau sydd eu hangen i wella eich siawns o gael swydd neu i wella eich CV, ac fe fyddan nhw’n rhoi gwybodaeth i chi am hyfforddiant a chyrsiau.

Cysylltwch â ni neu cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Cymunedau am Waith a Mwy

Cefnogaeth cyflogaeth arbenigol i bobl sydd mewn, neu mewn perygl o dlodi, ac sydd heb fod yn gymwys i ymuno â rhaglenni rhanbarthol eraill. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith