Os yw eich cyflogaeth wedi dod i ben neu os ydych wedi derbyn rhybudd diswyddo, gallwn eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith.
Gall colli swydd fod yn brofiad emosiynol iawn, ond nid ydych ar eich pen eich hun. Cysylltwch â Cymru’n Gweithio i'ch helpu i symud ymlaen ac i ddod o hyd i gyfleoedd newydd.
Gall ein cyngoryddion gyrfa gynnig cymorth ymarferol wedi'i deilwra i chi. Gall ein tîm eich helpu chi i:
- Ddod o hyd i'r cyllid sydd ar gael i'ch helpu i ailhyfforddi
- Nodi eich cryfderau a'ch sgiliau
- Archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael i chi
- Dod o hyd i swyddi newydd a gwneud cais amdanyn nhw
Wedi colli'ch swydd
Os ydych chi wedi colli eich swydd neu’n wynebu colli swydd, mae cefnogaeth ar gael i'ch helpu. Efallai y byddwch yn gallu cael cyllid ReAct+ i dalu am hyfforddiant a chostau eraill sy'n gysylltiedig â hyfforddiant.

Cael y cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen o golli swydd a newidiwch eich stori.

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.
Cefnogaeth i ddod o hyd i waith
Os ydych chi'n ddi-waith ond heb gael eich diswyddo, gall Cymru'n Gweithio eich helpu i gymryd y camau nesaf i mewn i waith a hyfforddiant. Mae ein cyngoryddion gyrfa a'n anogwyr cyflogadwyedd yn barod i'ch helpu i gael swydd, i wella eich sgiliau ac i ddod o hyd i gyrsiau neu hyfforddiant sy'n addas i chi.
Ar waith, ar unwaith

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.

Chwilio am swyddi yng Nghymru.
Cefnogaeth ychwanegol

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i'ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.

Gwnewch eich stori lwyddiant drwy ail-greu eich gyrfa gyda Chyfrif Dysgu Personol.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith
Straeon llwyddiant
Edrychwch ar sut mae Cymru'n Gweithio yn cefnogi cwsmeriaid i gymryd y cam nesaf yn ôl i'r gwaith.

Dysgwch sut mae rhai cwsmeriaid wedi bod yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl colli eu swyddi.

Dysgwch sut mae Cymru’n Gweithio wedi cefnogi cwsmeriaid i ddychwelyd i waith.