Troi brwdfrydedd yn adnodd i ddylunwyr uchelgeisiol.
Ar ôl 30 mlynedd a mwy yn gweithio ym maes addysg ac ymarfer Dylunio Mewnol, roedd Craig yn teimlo'n barod am her newydd.
Ac yntau wedi ennill gradd PhD, gweithio ar brosiectau o fri, a mentora miloedd o fyfyrwyr, roedd eisiau defnyddio ei brofiad ar gyfer rhywbeth ffres ac effeithiol.
Ddechrau 2025, cymerodd Craig ddiswyddiad gwirfoddol o'i rôl hirsefydlog i ddilyn uchelgais bersonol i lansio ei fusnes ei hun a helpu i roi dylunwyr newydd ar ben ffordd.
Dyfodol hyblyg
Ym mis Ebrill 2025, sefydlodd Craig Interior Design Evolution Ltd, platfform dysgu ar-lein wedi’i gynllunio i gefnogi Dylunwyr Mewnol brwd. Mae'r platfform yn cynnig cwrs 90 diwrnod hyblyg wedi'i deilwra i amserlen a lefel profiad pob dysgwr.
Trwy wersi ar-lein a mentora personol, mae Craig yn helpu eraill i fagu hyder, mireinio eu syniadau, a datblygu eu dyluniadau o'r cysyniad cychwynnol i'r cynnyrch terfynol.
Cofleidio technoleg
Wrth iddo ddatblygu'r busnes, roedd Craig eisiau archwilio sut gallai technoleg wella'r profiad dysgu. Dyna pryd y cysylltodd â Cymru'n Gweithio a chyfarfod â Catrin.
“Roedd Catrin yn wych," meddai Craig. “Roedd hi'n deall fy nodau i'r dim ac wedi helpu i sicrhau cyllid ReAct+ gan Lywodraeth Cymru. Daeth o hyd i'r cwrs Deallusrwydd Artiffisial perffaith i'm helpu i fynd â’m sgiliau i'r lefel nesaf.”
Diolch i'r hyfforddiant hwn, roedd Craig yn gallu cyflwyno deallusrwydd artiffisial i'w blatfform, gan greu 'Dr Craig', mentor rhithwir sy'n llywio dysgwyr trwy bob cam o'r cwrs. “Mae'n rhoi gwerth anhygoel i ddysgwyr, gan roi mynediad at arbenigwr wedi'i bersonoli 24/7," eglura Craig. “Mae'n eu helpu i wella eu sgiliau, cwblhau eu prosiectau, a datblygu eu llais creadigol. Mae'n ddatblygiad cyffrous iawn, ac rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y myfyrwyr hyd yma.”
Cymorth sy'n gwneud byd o wahaniaeth
“Fe ges i'r cymorth cywir ar yr adeg gywir gan Cymru'n Gweithio," meddai Craig. “Roedd cyllid ReAct+ gan Lywodraeth Cymru yn drobwynt. Fe wnaeth fy helpu i greu'r math o brofiad i fyfyrwyr ro'n i wastad eisiau ei gynnig.”
Diolch i'r cymorth hwn, mae Craig wedi lansio busnes y mae wir yn credu ynddo, un sy'n grymuso eraill i dyfu, dysgu a llwyddo.
Ar waith, ar unwaith yn helpu pobl i droi breuddwyd yn bwrpas.
Archwilio
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.
Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni