Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Annmarie

Annmarie in the care home kitchen she works in

Cafodd Annmarie hyder diolch i gyfleoedd gwaith.

Gwthio a herio ei hun

Datblygodd Annmarie o Ddoc Penfro frwdfrydedd dros letygarwch ac arlwyo ar ôl ei swydd gyntaf yn gweithio yn ei thafarn leol.

Esboniodd: “Roeddwn i wrth fy modd yn coginio, ond roeddwn i’n cael trafferth gyda fy sgiliau cyfathrebu a sylweddolais nad oedd gwaith dwys mewn tafarn yn addas i mi. Gadewais y swydd hon i benderfynu beth oedd y camau nesaf gorau i mi.” Mae Annmarie wrthi'n aros am ddiagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth.

A hithau ddim eisiau rhoi’r gorau i’w breuddwyd o goginio fel bywoliaeth, cafodd ei hannog gan ei chwaer a theulu maeth i gysylltu â’i darparwr hyfforddiant lleol i weld pa gymorth oedd ar gael ganddynt. Dywedodd: “Dyma’r peth gorau y gallwn fod wedi’i wneud – mae cofrestru ar raglen Twf Swyddi Cymru+ wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ymhellach.

“Roeddwn i wedi cael ychydig o sgiliau coginio sylfaenol drwy weithio yn fy nhafarn leol, ond magu hyder oedd ei angen arnaf a chanfod cyfeiriad i ddod o hyd i’r swydd iawn i mi yn y diwydiant. Mae’r gefnogaeth, yr arweiniad a’r hyfforddiant a gefais ar raglen Twf Swyddi Cymru+ wedi newid popeth i mi.”

Gwyliwch y fideo

Magu hyder

Dywedodd Annmarie ei bod hi wedi gwella fel cogydd ers cymryd rhan yn y rhaglen, a hefyd wedi datblygu sgiliau bywyd hanfodol ar ôl cael ei chefnogi drwy gyfres o leoliadau gwirfoddol yn ei hardal leol.

Aeth ymlaen i ddweud: “Yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs, datblygais fy sgiliau pobi, coginio a chyflwyno bwyd diolch i’r sylw ar ddysgu ymarferol a roddodd brofiadau ymarferol yn y byd go iawn i mi.

“Sylwais hefyd fod fy hyder a’m sgiliau cyfathrebu wedi tyfu wrth i mi wneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda’r Groes Goch Brydeinig yn Ninbych-y-pysgod a gyda Dezza’s Cabin, sef elusen iechyd meddwl sy’n lleol i mi. Roedd yn braf iawn helpu i gefnogi pobl yn fy ardal leol.”

Hefyd, roedd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ wedi helpu Annmarie i wneud cais am swydd newydd mewn cartref gofal cyfagos, sef Cartref Preswyl Pembroke Haven.

Ychwanegodd: “Fel yr oedd y cwrs yn dod i ben, helpodd y tîm fi gyda fy CV a’m cais am swydd fel cogydd yn fy nghartref gofal lleol. Fe wnaethon nhw fy nghefnogi drwy’r holl broses ymgeisio, yn ogystal â bod yno i fy hyfforddi ar gyfer y cyfweliad ei hun.

“Cefais gynnig swydd fel Cynorthwyydd Cegin ac rydw i wedi bod wrth fy modd ers hynny. Rydw i’n gweithio gyda phobl mor gyfeillgar ac rydw i wedi bod wrth fy modd hefyd yn meithrin perthynas â’r preswylwyr rydw i’n coginio iddyn nhw yn y cartref gofal.

“Mae hyn wedi bod yn berffaith i mi gan fy mod yn cael gweithio gyda’r un bobl hyfryd bob dydd a gwneud gwaith sy’n rhoi hapusrwydd i mi.”

Camu ymlaen mewn gyrfa

Mae Annmarie wedi bod mor lwyddiannus ers iddi ymuno â Chartref Preswyl Pembroke Haven fel ei bod hi eisoes wedi cael dyrchafiad.

Aeth ymlaen i ddweud: “Rydw i wedi datblygu cymaint mewn cyfnod byr, ac rydw i eisoes wedi cael fy nyrchafu i shifft y prynhawn lle byddaf yn cael awdurdod i weithio yn y gegin ar fy mhen fy hun.

“Mae ennill cyflog wedi rhoi cymaint o ryddid i mi, gan gynnwys gallu talu holl gostau fy ngwersi gyrru. Rydw i wedi pasio fy mhrawf yn ddiweddar ac wedi prynu fy nghar fy hun, sydd wedi newid fy mywyd!”

Mae gan Annmarie gyngor hefyd i’r rheini sy’n teimlo’n sownd ar groesffordd ar ôl gadael yr ysgol.

“Byddwn i'n annog unrhyw un sy’n teimlo ei fod ar goll ar ôl gadael yr ysgol i ystyried rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Pan fydda i’n edrych ar fy hun nawr o’i gymharu â lle’r oeddwn i ar ddechrau’r rhaglen, mae gen i lawer mwy o hyder yn fy ngallu – ryd w i wedi dod allan o fy nghragen."

Fy mreuddwyd yw bod yn rheolwr ar gegin ryw ddydd, neu hyd yn oed yn berchen ar fy mwyty, tafarn neu fan byrgers fy hun – mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw, rhaid i chi gael yr hyder i fynd amdani.


Rhagor o wybodaeth

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.