Gwnaeth cynghorydd gyrfa helpu Roxie i archwilio’r dewisiadau amgen i goleg ar ôl TGAU.
Roedd Roxie yn gwybod nad oedd am fynd i’r coleg ac roedd yn ystyried dod o hyd i waith ar ôl gadael yr ysgol.
Fe wnaeth cyfarfod â’r cynghorydd gyrfa, Charlotte, helpu Roxie i edrych ar yr holl opsiynau.
Uchelgais Roxie oedd gweithio ym maes lletygarwch a bu Charlotte yn gymorth i Roxie fedru gwireddu’r uchelgais honno.
Dywedodd Roxie: “Roedd teimlad o ryddhad mawr ar ôl cwrdd â Charlotte. Yn bendant fe helpodd fi i sylweddoli ble roeddwn i eisiau bod yn y dyfodol.”
Dod o hyd i'r llwybr cywir
Y cam nesaf oedd archwilio’r opsiynau ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth o fewn y sector.
Gwnaeth Charlotte awgrymu y gallai cyfleoedd hyfforddi gydag ITEC fod yn addas.
Ar ôl cyfarfod ag ITEC mewn sesiwn a drefnwyd gan Charlotte, penderfynodd Roxie mai dyma’r ffordd orau ymlaen.
Gwnaeth Roxie gais am gwrs ysbyty ac arlwyo gyda’r cwmni hyfforddi ac roedd yn falch iawn o dderbyn lle ar y cwrs hwnnw.
Edrych tua’r dyfodol
Ar ôl dechrau’r cwrs yn ITEC yn ystod yr haf, dywedodd Roxie: “Rwy wir yn mwynhau. Rwy wrth fy modd gyda’r lle.
“Rwy’n edrych ymlaen at gael llawer o opsiynau ar ôl i mi orffen.
“Dwi yma oherwydd Charlotte ac iddi hi mae’r diolch.”
Archwilio

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Ysbrydolodd cyngor gyrfa Amelia i ddechrau ei thaith prentisiaeth.

Angerdd Cian am waith coed yn arwain at brentisiaeth

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.