Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Prentisiaethau ar gyfer pobl anabl

Prentis yn gwenu wrth weithio mewn canolfan alwadau

Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn gwaith ag elfen o astudio. Fel prentis, cewch brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, gan ennill cyflog ar yr un pryd.

Ar brentisiaeth, rydym yn cynnig help sy'n benodol i chi wrth ichi ddysgu a gweithio. Os ydych chi'n chwilio am waith neu'n gobeithio newid gyrfa, prentisiaeth o bosib yw'r peth i chi. 

Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau neu cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy.


Am brentisiaethau

Mae prentisiaethau yng Nghymru ar gael i amrywiaeth o bobl. Maen nhw'n gallu rhoi cyfle teg a chyfartal i roi hwb i'ch gyrfa. Mae pob math o swyddi mewn amrywiaeth o ddiwydiannau ar gael. Dysgwch fwy:


Straeon go iawn

Ni ddylai’r ffaith fod gennych nam neu gyflwr iechyd gyfyngu ar eich dewis o yrfa. Darllenwch sut mae’r bobl hyn wedi defnyddio prentisiaethau i newid eu stori:

Stori Safyan

Dywed Safyan, sydd yn Brentis Creadigol, taw ei brentisiaeth yn ITV yw profiad gorau ei fywyd...

Stori Ellie

Mae prentisiaeth mewn gofal plant yn helpu Ellie i ddilyn gyrfa ei breuddwydion...

Stori Ben

Mae Ben wedi adennill ei hyder trwy ddechrau prentisiaeth...


Cynnwys cysylltiedig 

Am fwy o wybodaeth, ewch i Prentisiaethau: canllaw i ddysgwyr anabl ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth am:

  • Sut i gael prentisiaeth
  • Sut i ddweud wrth bobl am eich cyflwr
  • Arian i helpu â chostau cynnal
  • Cynllun Mynediad at Waith

Ewch i Prentisiaethau. Dewis Doeth i wybod mwy am brentisiaethau ac i weld fideos am brentisiaid.

Gwyliwch fideos ar sianel YouTube Engage To Change i ddarganfod mwy am y cymorth cyflogaeth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.


Cael help

Yma yn Cymru’n Gweithio, gall ein cynghorydd cyfeillgar eich helpu i fanteisio ar yr help a’r cyngor sydd eu hangen arnoch chi.  Felly, gallwch deimlo’n hyderus ynghylch cael hyd i’r cyfle iawn i gael gwaith a dilyn gyrfa.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith