Gofalu am eraill yw un o'r gyrfaoedd mwyaf gwerthfawr sydd ar gael.
Ydych chi'n mwynhau gweld pobl yn gwneud y gorau o bob dydd ac yn cyflawni'r hyn y mae nhw eisiau mewn bywyd? Dyma hanfod gyrfa mewn gofal.
Gall olygu gweithio gyda:
- Oedolion pan fydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw
- Plant a phobl ifanc
- Babanod a phlant ifanc
Pobl o bob oed, mewn gwirionedd – eu cefnogi i gyflawni eu nodau personol eu hunain.
Os oes gennych chi agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, yna ar gyfer y rhan fwyaf o rolau, gallwch chi ennill unrhyw hyfforddiant a chymwysterau sydd eu hangen arnoch tra byddwch chi yn y swydd. Mae llawer o ffyrdd o weithio'n hyblyg, sy’n eich galluogi chi i ofalu am bobl tra hefyd yn gofalu am y teulu.
Bydd galw mawr amdanoch chi
Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl ddarparu gofal a chefnogaeth i'r rhai sydd ei angen yn ein cymunedau.
Mae'r galw am weithwyr yn y sector gofal bron wedi treblu ers dechrau'r pandemig. Roedd 5,087 o swyddi ar gyfer rolau gofal ym mis Chwefror 2020, gan gynyddu i 15,057 ym mis Rhagfyr 2021. (Emsi, Ionawr 2022)
Y 11 swydd sydd wedi cael eu hysbysebu fwyaf ar-lein mewn Gofal yn ystod y 30 diwrnod diweddaraf yng Nghymru yw:
- Gweithwyr Gofal a Gofalwyr Cartref
- Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol
- Rheolwyr a Pherchnogion Gofal Preswyl, Dydd a Chartref
- Gweithiwyr Cymdeithasol
- Gweithwyr Lles a Chymdeithasau Tai
- Uwch Weithwyr Gofal
- Swyddogion Tai
- Nyrsys a Chynorthwywyr Meithrin
- Swyddogion Plant a’r Blynyddoedd Cynnar
- Gwarchodwyr Plant
- Gweithwyr Chwarae
(Emsi, y 30 diwrnod diweddaraf hyd at 10 Ionawr 2022)
Archwilio rolau swyddi mewn gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar

Dysgwch beth mae Cynorthwy-ydd Gofal yn ei wneud..

Dysgwch fwy am fod yn Nyrs Feithrin.

Dysgwch beth mae bod yn Weithiwr Cymdeithasol yn ei olygu ac a yw’n addas i chi.
Mwy o help i benderfynu
Os nad ydych chi’n siŵr am yrfa mewn gofal, rhowch gynnig ar adnodd dysgu Gofalwn Cymru 'Gofal yn Galw: Gyrfa i chi' i weld yr hyn yw gyrfa mewn gofal. Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau dwy o'r heriau, byddwch chi’n derbyn proffil personol a all eich helpu chi i benderfynu a yw'n addas i chi.
Dysgwch fwy am y swyddi sydd ar gael yn gweithio gyda phlant ac oedolion yng Nghymru, drwy ddarllen Straeon go iawn gan bobl go iawn ar Gofalwn Cymru.
Llwybrau i ofal
ReAct
Mae’r rhaglen ReAct yn anelu at helpu unigolion sydd wedi cael eu diswyddo neu’r sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod byr i gael y sgiliau y mae cyflogwyr sy’n recriwtio yn chwilio amdanynt.
Rhaid i bob un sy’n ymgeisio am grantiau ReAct ofyn am gyngor a chanllawiau gan gynghorwyr gyrfa Cymru’n Gweithio. Bydd y cyngor a’r canllawiau hyn yn ystyried y farchnad lafur.
Gall y rhaglen ReAct ddarparu grant o hyd at £1500 ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol a hyd at £200 i helpu â chostau sy’n gysylltiedig â hyfforddiant, er enghraifft costau teithio.
Rhagor o wybodaeth am gyllid ReAct.
Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol
Mae hwn yn gwrs hyfforddi i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Mae'r cwrs hyfforddi pedwar diwrnod ar gael i unrhyw un sy'n byw yng Nghymru a bydd yn cael ei gynnal ar-lein gyda thiwtor. Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu'r hanfodion sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol megis cyfathrebu ac arferion gweithio diogel. Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio, byddwch chi hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.
Gallwch gael mwy o wybodaeth neu gofrestru eich diddordeb gyda Gofalwn Cymru.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau ar gael ar lefelau 2,3,4 a 5.
Mae prentisiaethau yn amrywio o ymarferwyr cynorthwyol mewn meithrinfeydd neu leoliadau gofal dydd a gweithwyr gofal cymdeithasol i reolwyr a dirprwy reolwyr blynyddoedd cynnar a lleoliadau gofal cymdeithasol.
Dysgwch fwy am brentisiaethau yng Nghymru.
Cewch glywed gan y rhai sydd wedi cwblhau prentisiaeth mewn gofal ar wefan Gofalwn Cymru.
Hyfforddiant gan PACEY
Mae PACEY yn darparu hyfforddiant i gefnogi datblygu gwybodaeth, sgiliau a hunanhyder.
Mae ystod o hyfforddiant ar gael o hyfforddiant cyn cofrestru ar gyfer gwarchodwyr plant, i hyfforddiant diogelu ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant.
Dysgwch fwy am hyfforddiant gan PACEY. (dolen Saesneg)
Cyfrifon Dysgu Personol
Mae'r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA) wedi'i chyflwyno i alluogi pobl gyflogedig i uwchsgilio ac ailsgilio i sectorau blaenoriaeth, i gryfhau eu sefyllfa yn y farchnad lafur, ac i wella rhagolygon gyrfa ac ennill cyflog.
Yn benodol, nod y rhaglen yw helpu pobl sy'n ennill llai na'r cyflog canolrifol i gynyddu eu cyflogau. Mae amrywiaeth o wahanol lefelau cymhwyster.
Cymwysterau craidd Lefel 2
Mae'r cymwysterau craidd lefel 2 yn addas ar gyfer pobl dros 16 oed sy'n awyddus i weithio mewn rolau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Bydd cyflawni'r cymhwyster craidd yn rhoi’r wybodaeth graidd sydd ei hangen ar bobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Bydd y cymhwyster hwn o fudd i bobl fynd ymlaen ac ennill y cymhwyster ymarfer pan fydd ganddyn nhw swydd gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar. Gellir canfod y cymwysterau hyn mewn colegau addysg bellach.
Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae hwn yn gymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n bwriadu symud ymlaen i rôl reoli, sydd:
- yn rhoi cyfle 'camu' i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i Lefel 5
- yn bennaf ar gyfer y rhai sydd mewn cyflogaeth â thâl neu ddi-dâl neu sydd â mynediad i leoliad gwaith
- wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sy'n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster hwn (neu gymhwyster cyfatebol y cytunwyd arno) cyn ymgymryd â chymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Mae hwn yn gymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant:
- mae’n rhoi cyfle 'camu' i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i Lefel 5
- mae yn bennaf ar gyfer y rhai sydd mewn cyflogaeth â thâl neu ddi-dâl neu sydd â mynediad i leoliad gwaith, mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0 – 19 oed
- mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sy'n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster hwn cyn dilyn y Cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Dysgwch fwy am Gyfrifon Dysgu Personol.
Ble i ddod o hyd i swyddi mewn gofal
Os ydych chi'n meddwl y gallai swydd mewn gofal fod yn addas ar eich cyfer chi, dyma ambell beth y gallwch chi ei wneud:
- Dewch o hyd i swyddi gwag yn eich ardal chi ar Swyddi Gofalwn Cymru
- Chwiliwch am swyddi gwag a hysbysebir gan eich awdurdod lleol
- Galwch heibio i ymweld â busnesau lleol i gyflwyno’ch hun a gadael eich CV
- Cysylltwch â chynghorydd Cymru'n Gweithio i gael sgwrs am eich dyfodol
- Edrychwch ar y dolenni isod am fwy o gyfleoedd a swyddi gwag

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.

Cymerwch olwg ar y cyflogwyr sy’n recriwtio ar hyn o bryd. Dechreuwch chwilio am swydd yma.

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni
Gwybod mwy

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Cewch wybod beth i'w ysgrifennu mewn llythyr cais neu e-bost.