Gofalu am eraill yw un o'r gyrfaoedd mwyaf gwerthfawr sydd ar gael.
Ydych chi'n mwynhau gweld pobl yn gwneud y gorau o bob dydd ac yn cyflawni'r hyn y mae nhw eisiau mewn bywyd? Dyma hanfod gyrfa mewn gofal.
Os oes gennych chi agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, yna ar gyfer y rhan fwyaf o rolau, gallwch chi ennill unrhyw hyfforddiant a chymwysterau sydd eu hangen arnoch tra byddwch chi yn y swydd. Mae llawer o ffyrdd o weithio'n hyblyg, sy’n eich galluogi chi i ofalu am bobl tra hefyd yn gofalu am y teulu.
Bydd galw mawr amdanoch chi
Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl ddarparu gofal a chefnogaeth i'r rhai sydd ei angen yn ein cymunedau.
Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector. Ar gyfartaledd, mae 5,700 o swyddi gweigion yn cael eu postio ar-lein bob mis yng Nghymru. (LightcastTM, Awst 2022 i Ionawr 2023)
Y 10 swydd sydd wedi cael eu hysbysebu fwyaf ar-lein mewn Gofal yn ystod y 30 diwrnod diweddaraf yng Nghymru yw:
- Gweithwyr Gofal a Gofalwyr Cartref
- Gweithiwyr Cymdeithasol
- Gweithwyr Proffesiynol Lles a Thai
- Ceidwaid Tai
- Swyddogion Tai
- Uwch Weithwyr Gofal
- Cwnselwyr
- Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol
- Rheolwyr Gofal Preswyl, Gofal Dydd a Gofal Cartref
- Rheolwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
(LightcastTM, y 30 diwrnod diweddaraf hyd at 31 Ionawr 2023)
Archwilio rolau swyddi mewn gofal cymdeithasol

Dysgwch beth mae Cynorthwyydd Gofal yn ei wneud..

Dysgwch beth mae bod yn Weithiwr Cymdeithasol yn ei olygu ac a yw’n addas i chi.

Chwiliwch am wybodaeth am lawer mwy o swyddi ym maes gofal cymdeithasol.
Mwy o help i benderfynu
Os nad ydych chi’n siŵr am yrfa mewn gofal, rhowch gynnig ar adnodd dysgu Gofalwn Cymru 'Gofal yn Galw: Gyrfa i chi' i weld yr hyn yw gyrfa mewn gofal. Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau dwy o'r heriau, byddwch chi’n derbyn proffil personol a all eich helpu chi i benderfynu a yw'n addas i chi.
Dysgwch fwy am y swyddi sydd ar gael yn gweithio gyda phlant ac oedolion yng Nghymru, drwy ddarllen Straeon go iawn gan bobl go iawn ar Gofalwn Cymru.
Llwybrau i ofal
ReAct+
Mae’r rhaglen ReAct+ yn anelu at helpu unigolion sydd wedi cael eu diswyddo neu sydd wedi bod yn ddi-waith neu rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant am gyfnod byr i ennill y sgiliau y mae cyflogwyr sy’n recriwtio yn chwilio amdanynt.
Rhaid i bob un sy’n ymgeisio am grantiau ReAct+ ofyn am gyngor a chanllawiau gan gynghorwyr gyrfa Cymru’n Gweithio. Bydd y cyngor a’r canllawiau hyn yn ystyried y farchnad lafur.
Gall y rhaglen ReAct+ ddarparu grant o hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol a hyd at £300 i helpu â chostau sy’n gysylltiedig â hyfforddiant, er enghraifft costau teithio. Mae cymorth ychwanegol ar gyfer costau gofal plant a chymorth datblygiad personol i ddileu rhwystrau i gyflogaeth hefyd ar gael.
Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol
Mae hwn yn gwrs hyfforddi i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Mae'r cwrs hyfforddi pedwar diwrnod ar gael i unrhyw un sy'n byw yng Nghymru a bydd yn cael ei gynnal ar-lein gyda thiwtor. Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu'r hanfodion sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol megis cyfathrebu ac arferion gweithio diogel. Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio, byddwch chi hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.
Gallwch gael mwy o wybodaeth neu gofrestru eich diddordeb gyda Gofalwn Cymru.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau ar gael ar lefelau 2,3,4 a 5.
Mae prentisiaethau yn amrywio o ymarferwyr cynorthwyol mewn meithrinfeydd neu leoliadau gofal dydd a gweithwyr gofal cymdeithasol i reolwyr a dirprwy reolwyr blynyddoedd cynnar a lleoliadau gofal cymdeithasol.
Dysgwch fwy am brentisiaethau yng Nghymru.
Cewch glywed gan y rhai sydd wedi cwblhau prentisiaeth mewn gofal ar wefan Gofalwn Cymru.
Hyfforddiant gan PACEY
Mae PACEY yn darparu hyfforddiant i gefnogi datblygu gwybodaeth, sgiliau a hunanhyder.
Mae ystod o hyfforddiant ar gael o hyfforddiant cyn cofrestru ar gyfer gwarchodwyr plant, i hyfforddiant diogelu ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant.
Dysgwch fwy am hyfforddiant gan PACEY. (dolen Saesneg)
Cyfrifon Dysgu Personol
Mae'r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA) wedi'i chyflwyno i alluogi pobl gyflogedig i uwchsgilio ac ailsgilio i sectorau blaenoriaeth, i gryfhau eu sefyllfa yn y farchnad lafur, ac i wella rhagolygon gyrfa ac ennill cyflog.
Yn benodol, nod y rhaglen yw helpu pobl sy'n ennill llai na'r cyflog canolrifol i gynyddu eu cyflogau. Mae amrywiaeth o wahanol lefelau cymhwyster.
Cymwysterau craidd Lefel 2
Mae'r cymwysterau craidd lefel 2 yn addas ar gyfer pobl dros 16 oed sy'n awyddus i weithio mewn rolau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Bydd cyflawni'r cymhwyster craidd yn rhoi’r wybodaeth graidd sydd ei hangen ar bobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Bydd y cymhwyster hwn o fudd i bobl fynd ymlaen ac ennill y cymhwyster ymarfer pan fydd ganddyn nhw swydd gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar. Gellir canfod y cymwysterau hyn mewn colegau addysg bellach.
Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae hwn yn gymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n bwriadu symud ymlaen i rôl reoli, sydd:
- Yn rhoi cyfle 'camu' i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i Lefel 5
- Yn bennaf ar gyfer y rhai sydd mewn cyflogaeth â thâl neu ddi-dâl neu sydd â mynediad i leoliad gwaith
- Wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sy'n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster hwn (neu gymhwyster cyfatebol y cytunwyd arno) cyn ymgymryd â chymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Mae hwn yn gymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant:
- Mae’n rhoi cyfle 'camu' i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i Lefel 5
- Mae yn bennaf ar gyfer y rhai sydd mewn cyflogaeth â thâl neu ddi-dâl neu sydd â mynediad i leoliad gwaith, mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0 – 19 oed
- Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sy'n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster hwn cyn dilyn y Cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Dysgwch fwy am Gyfrifon Dysgu Personol.
Ble i ddod o hyd i swyddi mewn gofal
Os ydych chi'n meddwl y gallai swydd mewn gofal fod yn addas ar eich cyfer chi, dyma ambell beth y gallwch chi ei wneud:
- Dewch o hyd i swyddi gwag yn eich ardal chi ar Swyddi Gofalwn Cymru
- Chwiliwch am swyddi gwag a hysbysebir gan eich awdurdod lleol
- Galwch heibio i ymweld â busnesau lleol i gyflwyno’ch hun a gadael eich CV
- Cysylltwch â chynghorydd Cymru'n Gweithio i gael sgwrs am eich dyfodol
- Edrychwch ar y dolenni isod am fwy o gyfleoedd a swyddi gwag

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.

Cymerwch olwg ar y cyflogwyr sy’n recriwtio ar hyn o bryd. Dechreuwch chwilio am swydd yma.

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni
Gwybod mwy

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Cewch wybod beth i'w ysgrifennu mewn llythyr cais neu e-bost.