Beth yw Cymunedau dros Waith a Mwy?
Mae Cymunedau dros Waith a Mwy yn darparu cefnogaeth cyflogaeth arbenigol a mentora dwys i bobl sydd mewn, neu mewn perygl o dlodi, ac sydd heb fod yn gymwys i ymuno â rhaglenni Cymunedau dros Waith, PaCE neu raglenni rhanbarthol eraill a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, neu sy’n wynebu rhwystrau cymhleth wrth geisio sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.
Mae Cymunedau dros Waith a Mwy yn gallu darparu cymorth i’ch helpu i fagu hyder, ennill ychydig o brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ail-ysgrifennu eich CV. Bydd Cymunedau dros Waith a Mwy yn eich helpu fel unigolyn ac yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol.
Beth yw manteision Cymunedau dros Waith a Mwy?
Bydd Cymunedau dros Waith a Mwy yn darparu mentora a chefnogaeth ddwys i chi, a fydd yn eich helpu i sicrhau gwaith cynaliadwy.
Sut mae’n gweithio?
Byddwch yn cael mentor a fydd yn cwrdd â chi mewn man cyfleus sy’n agos atoch. Byddant yn ceisio darganfod pa help sydd ei angen arnoch pan fyddant yn cwrdd â chi, a byddant yn cytuno ar y camau nesaf gyda chi. Nid oes raid i chi ymuno â Chymunedau dros Waith a Mwy; chi sydd i benderfynu os yw Cymunedau dros Waith a Mwy yn addas ar eich cyfer chi yn dilyn eich cyfarfod gyda’ch mentor. Os ydych yn penderfynu ymuno â Chymunedau dros Waith a Mwy, bydd eich mentor yn trefnu i gwrdd â chi neu gysylltu â chi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau gwaith.
Mae gennyf ddiddordeb mewn Cymunedau dros Waith a Mwy. Beth sydd angen i fi ei wneud?
Bydd angen i chi weld cynghorydd Gyrfa Cymru a fydd yn trafod eich anghenion gyda chi ac yn eich atgyfeirio at eich darparwr Cymunedau dros Waith a Mwy lleol.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.