Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cymunedau dros Waith

Beth yw Cymunedau dros Waith?

Mae Cymunedau dros Waith yn wasanaeth cynghori yn y gymuned sy’n gweithio i gynyddu cyflogadwyedd i unigolion sydd heb fod mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant ac sy’n wynebu rhwystrau cymhleth wrth geisio sicrhau gwaith.

Mae Cymunedau dros Waith yn gallu darparu cymorth i’ch helpu i fagu hyder, ennill ychydig o brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ail-ysgrifennu eich CV. Bydd Cymunedau dros Waith yn eich helpu fel unigolyn ac yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol.   

Mae Cymunedau dros Waith yn rhaglen Llywodraeth Cymru a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.  

Beth yw manteision Cymunedau dros Waith?  

Bydd Cymunedau dros Waith yn darparu mentora a chefnogaeth ddwys i chi, a fydd yn eich helpu i sicrhau gwaith cynaliadwy.

Sut mae’n gweithio? 

Byddwch yn cael cynghorydd neu fentor a fydd yn cwrdd â chi mewn man cyfleus sy’n agos atoch. Byddant yn ceisio darganfod pa help sydd ei angen arnoch pan fyddant yn cwrdd â chi, a byddant yn cytuno ar y camau nesaf gyda chi. Nid oes raid i chi ymuno â Chymunedau dros Waith; chi sydd i benderfynu os yw Cymunedau dros Waith yn addas ar eich cyfer chi yn dilyn eich cyfarfod gyda’ch cynghorydd neu fentor. Os ydych yn penderfynu ymuno â Chymunedau dros Waith, bydd eich cynghorydd neu fentor yn trefnu i gwrdd â chi neu gysylltu â chi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau gwaith.

Mae gennyf ddiddordeb mewn Cymunedau dros Waith. Beth sydd angen i fi ei wneud? 

Bydd angen i chi weld cynghorydd Gyrfa Cymru a fydd yn trafod eich anghenion gyda chi ac yn eich atgyfeirio at eich cynghorydd Cymunedau dros Waith lleol.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.