Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Y cynnig Gofal Plant

Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru eisoes wedi helpu rhieni o bob rhan o Gymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg.

Os ydych chi’n chwilio am swydd, neu’n ystyried ailgydio mewn addysg neu hyfforddiant, ond yn poeni am gostau gofal plant, gallai’r cymorth hwn wneud y byd o wahaniaeth.

Beth yw Cynnig Gofal Plant Cymru?

Gall y cynnig ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y llywodraeth i’r rhan fwyaf o rieni plant 3 a 4 oed, os ydynt yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn. Mae’n ychwanegu at yr hawl gyffredinol bresennol i addysg gynnar, sy’n darparu o leiaf 10 awr o addysg gynnar i bob plentyn 3 a 4 oed. Bydd plant rhieni cymwys sy’n gweithio yn cael hyd at 20 awr ychwanegol o ofal plant wedi’i ariannu.

Ewch i Cael 30 awr o ofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed ar wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.

A ydw i’n gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru?

I fod yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru:

  • Rhaid ichi fyw yng Nghymru
  • Rhaid i incwm gros pob rhiant unigol fod yn ddim mwy na £100,000 y flwyddyn

I fod yn gymwys yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau, rhaid i’ch plentyn:

  • Naill ai fod yn 3 oed ac yn gymwys ar gyfer addysg gynnar (y tymor wedi i’ch plentyn droi’n 3 oed fydd hyn fel rheol, ond mae’n dibynnu ar bolisi eich awdurdod lleol ynghylch derbyn plant i ysgolion)
  • Neu’n 4 oed ac yn anghymwys ar gyfer addysg lawnamser yn yr awdurdod lleol lle rydych yn byw

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael addysg lawnamser yn eich awdurdod lleol:

  • Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor
  • Efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ystod gwyliau’r ysgol, os yw eich plentyn yn 3 neu 4 oed

Efallai y bydd gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau neu’n ffrindiau yn gymwys.

Rhaid ichi hefyd fodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • Ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd, ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw perthnasol i chi
  • Ar gyflog statudol tra ydych yn absennol o’r gwaith (oherwydd salwch, cyfnod mamolaeth, cyfnod tadolaeth, colli plentyn neu eich bod wedi mabwysiadu)
  • Bod wedi cofrestru naill ai ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd

Gellir gwneud eithriad hefyd ar gyfer rhieni sy’n cael budd-daliadau penodol am na allant weithio oherwydd anabledd, salwch neu gyfrifoldebau gofal llawnamser.

Cyn gwneud cais ewch i Gwirio os ydych yn gymwys am Gynnig Gofal Plant Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae gennyf ddiddordeb yng Nghynnig Gofal Plant Cymru, beth sydd angen imi ei wneud?

Bydd angen i bob rhiant sy’n dymuno manteisio ar ofal plant wedi’i ariannu drwy Gynnig Gofal Plant Cymru wneud cais drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn ddwyieithog ac ar gael drwy liniadur, ffôn symudol neu gyfrifiadur llechen.

I wneud cais, bydd angen:

  • Tystysgrif geni eich plentyn
  • Prawf o’ch cyfeiriad
  • Prawf o incwm eich aelwyd neu eich bod wedi cofrestru ar gwrs addysg uwch neu bellach

Gwnewch gais am Gynnig Gofal Plant Cymru.


Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith