Gwnaeth Tom newid gyrfa a drawsnewidiodd ei gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a dangosodd iddo nad yw byth yn rhy hwyr i ddilyn llwybr gwahanol.
Mae Tom yn gynghorydd gyrfa yn Gyrfa Cymru.
Mae gyrfa Tom wedi cymryd sawl tro gwahanol. Mae e'n rhannu ei stori i annog pobl eraill i feddwl am yr hyn maen nhw ei eisiau o'u gyrfa a gwneud newid os nad yw pethau’n teimlo’n iawn bellach.
Ystyried ei opsiynau
Ar y dechrau, roedd Tom yn gobeithio astudio cwrs hyfforddi chwaraeon yng Nghaerdydd ond ni chafodd y graddau yr oedd eu hangen arno.
Dechreuodd gwrs rheoli hamdden a chwaraeon ond sylweddolodd yn fuan nad oedd yn addas iddo. Dychwelodd i ogledd Cymru ac aeth ymlaen i astudio hanes a throseddeg ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Tom, “Dw i’n meddwl pe bawn i wedi gwybod am opsiynau eraill ar y pryd, efallai y byddai wedi bod ychydig yn wahanol i mi.”
Adeiladu ei yrfa
Ar ôl y brifysgol, cafodd Tom swydd haf gyda chwmni cludo nwyddau a logisteg.
Arhosodd yno am 20 mlynedd yn y pen draw. Aeth o waith warws i fod yn rheolwr cyn dod yn yrrwr dosbarthu hunangyflogedig.
Dywedodd Tom, “Rwy’n credu fy mod wedi cyrraedd pwynt lle dechreuais feddwl am yr hyn yr oeddwn am ei wneud nesaf. Dw i'n cofio meddwl, ‘Ydw i'n mynd i fod yma am 20 mlynedd arall?’
Ond dechreuodd Tom ailystyried beth yr oedd ei eisiau o'i fywyd gwaith.
Rhannodd “Y newid i mi mewn gwirionedd oedd cael dau o blant bach. Roeddwn i i ffwrdd o’r tŷ am dros 12 awr y dydd.
“Doeddwn i ddim yno pan oedden nhw’n deffro yn y bore, ac weithiau roeddwn i’n dod adref wrth iddyn nhw fynd i’r gwely. Roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i rywbeth newid yn y pen draw.”
Gwneud newid
Daeth Tom i wybod am rolau cynghorydd gyrfa dan hyfforddiant yn ei ganolfan Gyrfa Cymru leol. Gwnaeth gais ond nid oedd yn llwyddiannus y tro cyntaf.
Yn hytrach na rhoi’r gorau iddi, gofynnodd am adborth ar sut y gallai wella. Gwnaeth gais eto ac roedd yn llwyddiannus.
Mae Tom bellach wedi bod yn y rôl am dair blynedd. Cwblhaodd diploma Lefel 6 mewn Cyfarwyddyd a Datblygiad Gyrfa, ac mae bellach yn gweithio fel cynghorydd gyrfa. Mae'n mwynhau cefnogi eraill a gweld y gwahaniaeth y gall ei waith ei wneud.
Dywedodd, “Mae pob diwrnod yn wahanol. Mae pob diwrnod yn her. Weithiau rydych chi'n cael diwrnodau anodd, weithiau rydych chi'n cael diwrnodau pleserus ac weithiau rydych chi'n cael canlyniadau da iawn gan gwsmeriaid. Mae hynny'n gwneud fy swydd yn wirioneddol bleserus. “Mae cael e-bost byr i ddweud diolch neu ‘gwaith da’ yn golygu cymaint i mi.”
Edrych yn ôl, symud ymlaen
Mae Tom hefyd yn tynnu ar ei brofiadau ei hun wrth helpu pobl sy'n ansicr ynghylch eu cam nesaf.
Dywedodd Tom, “Pan rydych chi'n 16 oed, nid yw eich penderfyniadau'n diffinio beth fyddwch chi'n ei wneud am weddill eich oes.
"Peidiwch byth â meddwl mai dyna’r penderfyniad terfynol. Gallwch chi gymryd llwybr gwahanol neu fynd i ddiwydiant gwahanol os dymunwch chi.”
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Tom, gallwch drefnu adolygiad gyrfa am ddim i'ch helpu i newid gyrfa.
Archwilio
Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.
Help gydag ysgrifennu CV, llythyrau cais, technegau cyfweld, dod o hyd i swyddi a mwy.
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.