Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Sue

Sue

Mae Sue yn ffynnu ar ôl newid gyrfa.

Yn wynebu diweithdra

Mwynhaodd Sue, o Wrecsam, yrfa 10 mlynedd yn y diwydiant digwyddiadau fel cydlynydd digwyddiadau. Cafodd Sue ei diswyddo yng ngwanwyn 2021 oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ar leoliadau ac ymgynnull.

Roedd colli ei swydd yn gwneud Sue yn ansicr iawn o'i rhagolygon gyrfa a sut y byddai'n cael swydd newydd.

Meddai Sue, “Roedd colli swydd sefydlog roeddwn i'n ei mwynhau ac wedi bod ynddi ers cymaint o amser yn ergyd wirioneddol i fy hyder. Roedd y farchnad swyddi wedi newid gymaint, a doeddwn i ddim yn gwybod sut i fynd i mewn i’r farchnad eto. Roedd yn gyfnod anodd i mi”.

Ymwybyddiaeth o Cymru’n Gweithio a chael gafael ar gymorth gyrfaoedd

Wrth wneud cais am lwfans ceisio gwaith, dywedodd Cynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith wrth Sue am y cymorth sydd ar gael gan Cymru'n Gweithio. Darganfu Sue y gallai Cymru’n Gweithio roi cyngor iddi ar ei chyfeiriad gyrfa a’r camau nesaf.

Cysylltodd Sue drwy'r llinell gymorth. Yna cafodd gyfarfodydd wyneb yn wyneb yng nghanolfan Gyrfa Cymru Wrecsam.

Gweithiodd Sue gyda'r cynghorydd gyrfa, Suzanne Richards a chafodd fynediad at ystod o gymorth. Roedd hyn yn cynnwys cyfarwyddyd gyrfaoedd, cymorth CV, technegau cyfweld a chwilio am swydd.

Cofrestrwyd Sue hefyd i gymryd rhan mewn rhaglen gymunedol sy'n darparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau a rhoi hwb i'r siawns o gael swydd newydd.

Wrth siarad am y sesiynau, dywedodd Sue, “Roedden nhw’n ddefnyddiol wrth fy helpu i fireinio fy sgiliau. Roeddwn i eisiau cael swydd arall, ond doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i’r sgiliau cywir, ac roeddwn i’n cael trafferth gwerthu fy hun i gyflogwyr”.

Newid gyrfa

Gan weithio gyda’i gilydd, cytunodd Sue a’i chynghorydd gyrfa y byddai rôl mewn logisteg a gweithrediadau yn gweddu yn dda iddi. Byddai hyn yn adeiladu ar ei phrofiad gwaith yn y gorffennol.

Aeth Sue ymlaen i gael cynnig tair swydd wahanol. Derbyniodd swydd fel gweinyddwr cludiant i gwmni gofal iechyd Phoenix, cyfanwerthwr cynnyrch fferyllol cenedlaethol. Dechreuodd Sue ei rôl newydd ym mis Gorffennaf 2021. O fewn dwy flynedd, mae Sue eisoes wedi cael dyrchafiad o fewn y sefydliad i rôl goruchwyliwr cludiant.

Wrth siarad am y gefnogaeth a gafodd gan Cymru’n Gweithio, meddai Sue, “Mae wedi fy helpu i adnabod ac amlygu fy sgiliau ac wedi fy nghadw i fynd ac wedi fy nghymell ar adeg anodd. Deuthum yn benderfynol o gael fy hun yn ôl i waith ac rwy'n llawer mwy hyderus a galluog yn fy swydd”.

Ychwanegodd Sue, “Fe aeth fy nghynghorydd gyrfa gam ymhellach ar fy rhan ac rydw i mor ddiolchgar am ei chefnogaeth. Byddwn yn argymell Cymru’n Gweithio i unrhyw un sydd ar groesffordd yn eu gyrfa”.

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac yn awyddus i archwilio’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru’n Gweithio drwy ffonio 0800 028 4844 yn rhad ac am ddim, anfon neges e-bost at cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu gallwch gael sgwrs fyw.


Archwilio

Stori Martin

Martin yn profi y gallwch ddysgu sgiliau newydd beth bynnag eich oedran.

Stori Frances

Gwnaeth cadw ei sgiliau yn gyfredol helpu Frances i symud i yrfa newydd.

Adolygiad gyrfa

Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.