Daeth Lona o hyd i yrfa newydd werth chweil yn helpu eraill i gyflawni eu nodau.
Mae Lona yn gynghorydd gyrfa gyda Gyrfa Cymru yn Queensferry. Ar ôl gweithio ym myd addysg am ddeng mlynedd, penderfynodd ei bod hi'n amser am newid.
Mae hi'n rhannu ei stori i annog pobl eraill i feddwl am yr hyn maen nhw ei eisiau o'u gyrfa. Mae hi'n gobeithio y bydd yn dangos i bobl eraill y gall y sgiliau sydd ganddyn nhw eisoes agor cyfleoedd newydd.
Dywedodd, “Roeddwn i eisiau rhywbeth a oedd yn cynnig mwy o hyblygrwydd a lle gallwn i barhau i gefnogi pobl. Roeddwn i’n chwilio am ymdeimlad o rymuso a her newydd.”
Yn barod am rywbeth newydd
Pan ddaeth Lona ar draws rôl cynghorydd gyrfa yn Gyrfa Cymru, roedd yn teimlo fel cam nesaf naturiol.
Dywedodd, “Roedd y rôl yn ymddangos i fod yn addas i mi. Fe gyfunodd lawer o agweddau ar fy rolau blaenorol yr oeddwn yn eu mwynhau fwyaf, yn enwedig helpu unigolion i oresgyn rhwystrau.
“Roeddwn i hefyd yn edrych ymlaen at y cyfle i ddefnyddio fy sgiliau Cymraeg mewn ffordd ystyrlon.”
Sgiliau a drosglwyddwyd i yrfa newydd
Nid oedd newid cyfeiriad yn golygu dechrau o'r dechrau.
Dywedodd, “Helpodd fy rôl fugeiliol i ddatblygu sgiliau gwrando gweithredol, empathi a’r gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus.
Fe wnaeth fy mhrofiad o weithio gyda myfyrwyr anghenion dysgu ychwanegol gryfhau fy ngallu i addasu fy null gweithredu hefyd. Ac fe wnaeth fy rôl fel goruchwyliwr llanw fy helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu cryf a hyder wrth siarad ag unigolion.”
Mae'r sgiliau hyn wedi helpu Lona yn ei rôl newydd. Yn Gyrfa Cymru, mae hi wedi ennill sgiliau newydd, wedi dysgu am y farchnad lafur ac wedi gweithio gydag ystod eang o gwsmeriaid.
Magu hyder
Dywedodd Lona, “Roeddwn i’n cwestiynu fy hun lawer ar y dechrau ac yn aml yn meddwl tybed a oeddwn i’n ddigon da i newid gyrfa yn llwyr.
"Ar ôl treulio deng mlynedd yn gweithio yn yr un ysgol, roedd newid gyrfa yn golygu newid o wneud rhywbeth a oedd yn gyfarwydd, a dechrau eto mewn amgylchedd hollol newydd.
"Ond dyma fi, flwyddyn i mewn i'r rôl a dyma'r penderfyniad gorau wnes i."
Cyngor Lona ar gyfer newid
Os yw unrhyw un yn ystyried newid gyrfa, mae cyngor Lona yn syml: peidiwch â gadael i amheuaeth eich dal yn ôl.
“Peidiwch â gadael i amheuaeth eich dal yn ôl. Byddwch yn barod i wneud rhywbeth sy’n anghyfarwydd a chofleidio heriau newydd.”
“Siaradwch â ffrindiau, teulu a chydweithwyr am eich syniadau, oherwydd gall eu cymorth a’u safbwyntiau fod yn amhrisiadwy.”
Mae Lona yn disgrifio ei thaith i newid gyrfa mewn tri gair: “Grymusol, boddhaus, gwobrwyol.”
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Lona, gallwch drefnu adolygiad gyrfa am ddim i’ch helpu i newid gyrfa.
Archwilio
Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.
Help gydag ysgrifennu CV, llythyrau cais, technegau cyfweld, dod o hyd i swyddi a mwy.
Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.