Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Huw

Huw

Newidiodd lleoliad 6 mis drwy gynlluniau gyrfa hirdymor Huw.

Edrych am swydd ar ôl y brifysgol

Gorffennodd Huw yn y brifysgol yn 2012 ar ôl cwblhau cwrs gradd 3 blynedd mewn ffilm, cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol ym Mhrifysgol Caerhirfryn.

Dychwelodd Huw i Gymru yn fuan ar ôl graddio a dechreuodd chwilio am swydd ym myd teledu. Roedd yn ei chael hi’n anodd cael ei droed yn y drws hyd yn oed ar lefel mynediad, ond mae’n credu mai’r ffaith nad oedd ganddo drwydded yrru oedd i gyfrif am hyn yn hytrach na rhesymau’n ymwneud â chymhwysedd.

Dywed Huw, “Roeddwn yn edrych ar swyddi rhedwr ar lefel mynediad, fodd bynnag ar y pryd doeddwn i ddim yn gallu gyrru ac roedd pob swydd wag roeddwn yn dod o hyd iddi yn nodi fod trwydded yrru a mynediad at gerbyd yn hanfodol. Roedd hyn yn bennaf oherwydd natur hyblyg y rôl a’r angen i fod mewn lleoliadau ar fyr rybudd, weithiau ar oriau anghymdeithasol, ac yn aml gyda llawer o offer!”.

Dechreuodd Huw gael gwersi gyrru ac er ei fod yn byw gyda’i rieni ac yn cadw ei wariant i isafswm, canfu fod angen iddo ddechrau ennill cyflog i dalu am ei wersi ac i dalu ei gostau byw sylfaenol.

Ehangu opsiynau cyflogaeth

Yn ystod cyfnod Huw yn y brifysgol, yn ogystal â datblygu ei ddyheadau gyrfa i weithio ym myd teledu, dangosodd hefyd ddawn ar gyfer fideograffeg a chyfryngau creadigol.

Teimlai Huw fod angen iddo ehangu ei gyrhaeddiad ac ar ôl cael cyngor gan ffrind, cysylltodd ag ICE, sefydliad dechrau busnes wedi'i leoli yng Nghymru i gael rhywfaint o gyngor ar y posibilrwydd o ddechrau ei fusnes fideograffeg ei hun.

Dywed Huw “Ar y pwynt hwnnw dim ond ers 4 mis roedd ICE wedi ei sefydlu felly roedd yn newydd iawn. Mynychais un o’r diwrnodau agored ac yno cefais gymorth amhrisiadwy. Roedd pawb yn ICE mor barod i helpu ac fe wnaethant fy helpu i ddechrau fy musnes fy hun, er yn fusnes bach, gyda sylfaen wybodaeth wirioneddol  gadarn”.

Tua’r adeg honno gwelodd Huw fod swydd ar gael gydag ICE ar Twf Swyddi Cymru. Byddai hyn yn caniatáu iddo gael gwaith a thâl am chwe mis a phrofiad gwaith hanfodol. Ymgeisiodd Huw am y swydd ac roedd yn falch iawn pan gafodd ei chynnig!

Dywed Huw “Roedd y swydd yn cael ei disgrifio fel cynorthwyydd marchnata ond gan ei fod yn sefydliad newydd, roedd yn swydd amrywiol iawn a llwyddais i ymgymryd â rôl cynorthwyydd yn y rhan fwyaf o feysydd y busnes.

“Er fy mod ar leoliad, wnaeth y rheolwyr na’r gweithwyr eraill erioed wneud i mi deimlo fel person dros dro - roeddwn yn teimlo fel rhan o’r tîm”.

Canfod arbenigedd ac 8 mlynedd yn ddiweddarach…

Roedd ICE eisiau dal eu gafael yn Huw ar ôl y chwe mis cyntaf ac er nad oedd yn gallu cynnig swydd amser llawn barhaol  iddo, cynigiwyd swydd ran-amser i Huw ac fe’i derbyniodd.

Drwy weithio’n rhan amser, roedd gan Huw fwy o amser i ymroi i’w fusnes bach felly gallai ychwanegu at ei enillion.

Profodd Huw ei hun yn y rôl a chafodd gynnig swydd amser llawn. 8 mlynedd yn ddiweddarach ac mae dal yn gweithio i ICE.

Dywed Huw “Dw i wir yn mwynhau fy rôl fel cydlynydd safle a gwerthiant. Rwy’n gallu uniaethu â’r bobl rydym yn eu helpu a gallaf ddefnyddio fy ngwybodaeth ymarferol am bob agwedd ar y busnes i’w cynorthwyo.

“Rwyf wedi canfod fy arbenigedd yn y maes gwerthu a chan fod fy rôl yn cynnwys gweithgaredd hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth nid yw’n rhy wahanol i’r agweddau y bûm yn eu hastudio ar gyfer fy ngradd.

“Alla i ddim gwarantu y bydd pob swydd dros dro yn troi’n swydd barhaol ond, i mi, fe wnaeth cymryd siawns dalu’i ffordd”.


Archwilio

Dysgu sgiliau newydd

Chwiliwch am raglenni cymorth a all eich helpu i gael y sgiliau sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau, a mwy.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.