Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Heather

Heather

Cymorth gyrfaoedd drwy gyfweliad fideo yn helpu Heather i gynllunio ar gyfer dychwelyd i Gymru.  

Symud i wlad arall

Symudodd Heather, sy'n dod o Gaernarfon yn wreiddiol, i Korea ym mis Mawrth 2019 ar ôl cyfarfod a phriodi ei phartner sy'n hanu o'r wlad. 

Roedd gan Heather angerdd tuag at Saesneg ac ysgrifennu creadigol ers pan oedd hi'n ddim o beth, ac roedd hyn o gymorth mawr pan symudodd i Korea gan ei bod bellach yn gweithio fel tiwtor Saesneg preifat.

“Gadewais yr ysgol yn 2017 ar ôl gorffen fy arholiadau Safon Uwch a phenderfynu mai'r llwybr gorau i mi bryd hynny oedd chwilio am waith. Cefais swydd yr oeddwn yn ei mwynhau ond roeddwn hefyd yn awyddus i wella fy nghyfleoedd gwaith drwy astudio cyrsiau pellach yn ymwneud â Saesneg."

Cael cymorth gan Cymru'n Gweithio

Mae Heather a'i gŵr yn bwriadu symud yn ôl i Gymru yn 2021 ar ôl i'w gŵr gwblhau ei radd. Dechreuodd feddwl am gynllunio ymlaen llaw ar gyfer dychwelyd i Gymru; edrych ar gyfleoedd gwaith a sgiliau a chymwysterau posibl y byddai eu hangen arni.

“Wrth ymchwilio ar-lein a chwilio am wybodaeth am y farchnad lafur, cefais fy nghyfeirio at Cymru'n Gweithio, sy'n wasanaeth a ddarperir gan Gyrfa Cymru. Cofiais am y cyngor a'r cyfarwyddyd gyrfaoedd a gefais gan Gyrfa Cymru pan oeddwn yn yr ysgol.

Defnyddiais y cyfleuster sgwrsio ar-lein drwy wefan Cymru'n Gweithio ac yna cefais gynnig galwad fideo gyda chynghorydd gyrfa. Roedd yn syml iawn, a gallwn wneud y cyfan o gysur fy nghartref mewn amgylchedd diogel”

Blaengynllunio gyrfa

“Roedd Avril, y cynghorydd gyrfa, yn wych ac roedd ganddi gyfoeth o wybodaeth. Aeth drwy'r holl wahanol opsiynau sydd ar gael i mi ac edrych ar wahanol rolau a fyddai'n addas i mi a pha gymwysterau fyddai eu hangen arnaf er mwyn cael y swyddi hynny. Rhoddodd syniadau swyddi gwych i mi a'm helpu i ddrafftio fy CV.

“Byddaf yn parhau i gael cymorth gan Cymru'n Gweithio tra byddwn yn gwneud trefniadau i symud yn ôl i Gymru. Ar hyn o bryd rwy'n ystyried dilyn cwrs Saesneg yn y brifysgol."

Os ydych chi, fel Heather, yn awyddus i gael cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi, cysylltwch â ni.


Archwilio

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.