Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Ceri T

Ceri

Helpodd cymorth gyrfa Ceri i ailadeiladu ei hyder ar ôl damwain a newidiodd ei bywyd.

Bu Ceri yn gweithio fel athrawes am ugain mlynedd.

Yn 2024, cafodd ddamwain ddifrifol a arweiniodd at gyfnod hir o adferiad ar ôl llawdriniaeth.

Dywedodd Ceri, “Gall y cyfnod adferiad ar gyfer y math hwn o anaf gymryd hyd at dair blynedd. Nid dim ond adferiad yr ochr gorfforol oedd hi. Yn feddyliol, doeddwn i ddim yn dda chwaith. Dechreuais boeni cymaint am syrthio nes i mi hyd yn oed ofni cerdded ar fy mhen fy hun.”

Wrth iddi wella o’i hanafiadau, dechreuodd Ceri feddwl am ei chamau nesaf.

Dywedodd, “Doeddwn i ddim yn barod i weithio eto, ond roeddwn i’n dechrau edrych a gweld beth oedd allan yna.”

Cymryd y cam cyntaf

Cysylltodd Ceri â Cymru’n Gweithio a threfnu apwyntiad yn swyddfa Pen-y-bont ar Ogwr. Yno, cyfarfu â’r cynghorydd gyrfa Kelly. 

Dywedodd Ceri, “Y tro cyntaf i mi gyfarfod â Kelly, dechreuais i grio. Roeddwn i hyd yn oed yn ofni cerdded. Ond roedd hi’n wych.”

Cymerodd Kelly amser i ddeall sefyllfa Ceri a’i helpu i feddwl am ei chamau nesaf. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw ddiweddaru ei CV, archwilio cyfleoedd a nodi ffyrdd o ailadeiladu ei hyder. Cyflwynodd Kelly Ceri hefyd i’w chydweithiwr CK, anogwr cyflogadwyedd.

Ailadeiladu hyder

Wrth i Ceri wella, helpodd Kelly hi i gymryd camau bach tuag at ddychwelyd i’r gwaith. Roedd hyn yn cynnwys cwrs TG sylfaenol.

Dywedodd Ceri, “Roedd y cwrs yn garreg filltir fach i mi. Roedd ar-lein, a oedd yn ei gwneud hi’n haws ar y cam hwnnw, a dim ond ychydig o bobl eraill arno. 

“Fe helpodd fi i feithrin hyder a dod i arfer â bod o gwmpas pobl eto.”

Ychwanegodd: “Byddai Kelly yn dod o hyd i bethau bach tebyg i feithrin fy hyder. Helpodd hi fi i sylweddoli y gallwn i fynd yn ôl i’r gweithle eto.”

Dychwelyd i’r dechrau

Cyn ei damwain, roedd Ceri eisoes wedi bod yn ystyried newid gyrfa ac wedi edrych ar gyfleoedd gyda Gyrfa Cymru. Rhoddodd y ddamwain y cynlluniau hynny ar stop.

Fisoedd yn ddiweddarach, tynnodd Kelly sylw at swydd wag cynghorydd gyrfa dan hyfforddiant gyda Gyrfa Cymru ac anogodd Ceri i wneud cais. Fe wnaeth Kelly a CK ei helpu hefyd i baratoi ar gyfer y cyfweliad a’r cyflwyniad.

Llwyddodd Ceri a bydd yn dechrau ei rôl newydd fel cynghorydd gyrfa dan hyfforddiant yn fuan.

Dywedodd Ceri, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr ato. Mae hi wedi bod yn amser hir ers i mi fod yn y gwaith a dw i am fynd allan a bwrw ymlaen â’r gwaith.”

Cyngor i bobl eraill

Dywedodd Ceri, “Dw i’n meddwl yn bendant ewch i Gyrfa Cymru. Rydych chi’n meithrin perthynas â’r cynghorwyr. Dydych chi ddim yn teimlo fel un wyneb arall wrth ddod mewn yn chwilio am swydd.

“Maen nhw wir yn edrych ar yr unigolyn a’i brofiadau. Roedd eu cymorth bob amser yn feddylgar a phersonol.”

Mae Cymru’n Gweithio yn cael ei darparu gan Gyrfa Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Cymru’n Gweithio yn darparu cyngor gyrfa i bobl 16 oed ac yn hŷn.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Ceri, gallwch archebu adolygiad gyrfa am ddim i’ch helpu i newid gyrfa.

Archwilio

Adolygiad gyrfa

Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn eich helpu i gael swydd, gwella sgiliau drwy gyrsiau a hyfforddiant, a dod o hyd i gyfleoedd cymorth a chyllid er mwyn i chi allu newid eich stori.