Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Alex

Alex

Cafodd y pandemig effaith fawr ar fy uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Cafodd Alex, sy’n 18 oed, gyfnod cythryblus ym mlynyddoedd 12 ac 13.

Ar ôl blwyddyn 11, penderfynodd Alex gofrestru ar gyfer y chweched dosbarth yn ei ysgol i astudio Bagloriaeth Cymru, TG a BTEC dwbl mewn busnes.

Yn ystod ei astudiaethau, cafodd y pandemig effaith fawr ar addysg ac iechyd meddwl Alex. Roedd dysgu o gartref wedi ei wneud yn isel ei ysbryd, ac ar adegau ni allai hyd yn oed gerdded y 2 droedfedd at ei ddesg a thanio’r cyfrifiadur.

Heb ffrindiau nac athrawon i roi cymhellant iddo’n ddyddiol, roedd Alex yn teimlo bod ei uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yn dechrau diflannu, ac roedd yn awyddus i fynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth i ailgynnau ei frwdfrydedd.

Cofrestru ar gyfer prentisiaeth

Meddai Alex: “Roedd dychwelyd yn raddol i’r chweched dosbarth yn ddefnyddiol iawn. Fe ddychwelodd fy mhenderfyniad ac yn ffodus llwyddais i ddal i fyny gyda fy holl waith ysgol. Ond, ar yr adeg honno, sylweddolais fy mod yn gorffen yn yr ysgol mewn tri mis ac nad oedd gen i gynllun ar gyfer fy nyfodol.”

Yn ffodus, fe wnaeth athro busnes Alex ei roi mewn cysylltiad â chynghorydd gyrfa a oedd wedi clywed am swydd wag fel prentis dadansoddi data gyda Pro Global.

Meddai Alex: “Roedd y cynghorydd gyrfa yn hynod o gefnogol, gan fy helpu i gwblhau’r ffurflen gais a phan ges i fy ngwahodd am gyfweliad, fe wnaeth fy nghyfeirio at fodiwlau paratoi ar gyfer cyfweliad Sgiliau i Lwyddo.

“Yn ystod fy nghyfarfod gyda Pro Global wnes i ddim llwyddo i egluro un o fy mhwyntiau’n llawn. Siaradodd y cynghorydd gyrfa â’r cwmni i egluro fy nghamgymeriad ac fe wnaethant gytuno i gynnig ail gyfweliad i mi.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Gyrfa Cymru a’r holl gefnogaeth a chyfarwyddyd a gefais. Oherwydd hynny, dwi nawr mewn swydd lle mae llawer o botensial i ddatblygu. Ar hyn o bryd dwi'n trefnu datganiadau yswiriant hedfan, a nesaf mae gen i ddewis mynd i’r adrannau cyllid, data neu adnoddau dynol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddarganfod pa lwybr sy'n gweddu orau i mi.

“I unrhyw un sy’n cael eu canlyniadau eleni ac sy’n ansicr beth maen nhw eisiau ei wneud nesaf, neu unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth, fy nghyngor i yw cysylltu â chynghorydd gyrfa i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i chi.”


Archwilio

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Begw

Begw Rowlands: Mae blwyddyn allan wedi fy helpu i gynllunio fy nyfodol...

Stori Imogen

Imogen: Astudio yn y chweched dosbarth a chynllunio ar gyfer y brifysgol...

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.