Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Aimen

Aimen

Roedd cymorth gyrfa wedi helpu Aimen i adennill ei hyder ar ôl cael ei colli ei swydd.

Mae Aimen, sy’n 36 oed, wedi byw yng Nglannau Dyfrdwy ers dros 10 mlynedd. Ar ôl cael ei colli ei swydd, fe’i cafodd hi'n anodd sicrhau ei chyfle nesaf.

Dywedodd, “Yn anffodus, collais fy swydd y llynedd ym mis Ebrill ac roeddwn i’n eithaf digalon, a dweud y gwir. Dechreuais gwblhau ceisiadau ar-lein ar bob platfform swyddi ac ym mhobman, ond doeddwn i ddim yn cael unrhyw lwc. Collais fy hyder, ac roeddwn i'n teimlo'n rhwystredig.”

Cael cymorth

Penderfynodd Aimen gysylltu â Cymru'n Gweithio i gael cymorth.

Dywedodd, “Un diwrnod, cerddais i mewn i'r swyddfa. Cefais groeso cynnes iawn. Gofynnwyd i mi beth oedd fy sefyllfa a phan esboniais, mi gefais i apwyntiad gyrfa. Cymerodd fy nghynghorydd gyrfa, Andy, yr amser i wrando arnaf. Soniodd am yr holl opsiynau posibl oedd ar gael i mi.”

Cawsant gyfle i sgwrsio am y mathau o waith yr oedd Aimen yn eu mwynhau a phwysigrwydd dod o hyd i rôl a oedd yn addas i'w bywyd teuluol. Gwnaethon nhw hefyd sylweddoli bod angen diweddaru ei CV.

“Esboniodd wrtha i y gallai fod angen gwella fy CV rhywfaint. Weithiau dydy pobl ddim yn gwybod sut i werthu eu hunain yn y ffordd orau felly gall arbenigwr CV eich helpu i ddod â'ch holl sgiliau ynghyd yn y CV i chi fel y gall eich helpu i gael y swydd.”

Trefnodd Aimen apwyntiad gyda Lesley, hyfforddwr cyflogadwyedd yn Cymru'n Gweithio, i gael dealltwriaeth well o sut i wella ei CV. Cafodd Aimen help gan Lesley i restru ei holl swyddi hyd yn hyn a nodi'r sgiliau allweddol y gallai eu harddangos i gyflogwyr.

Trobwynt

Unwaith i’w CV gael ei ddiweddaru, dechreuodd Aimen wneud cais am swyddi eto.

“Gwnes gais i ychydig o leoedd gwahanol gan ddefnyddio’r CV newydd. Cefais lawer o ymatebion ac ymhlith rhain cefais i'r swydd gofal hon fel cynorthwyydd gofal. Roedden nhw'n hapus i gynnig y swydd i mi ar unwaith. Fe wnaethon nhw hyd yn oed gynnig prentisiaeth i mi.”

Rhoddodd hyn gyfle i Aimen fynd yn ôl i'r gwaith a magu hyder.

Dywedodd Aimen “Roedd dod i gael cymorth a chefnogaeth gan Cymru’n Gweithio yn drobwynt yn fy mywyd. Roedd cymaint o wahanol opsiynau ar gael i mi – gallwn ddewis dechrau gyrfa newydd neu astudio. Felly mae’n fwy na dim ond un peth yn unig.”

Cyngor i eraill

Roedd cael y cyfle i siarad â chynghorydd gyrfa wedi helpu Aimen i weld ei chryfderau ei hun unwaith eto.

Dywedodd Aimen, “Roedd hyd yn oed sgwrsio â nhw, a dweud wrthyn nhw am y pethau roeddwn i'n arfer eu gwneud a'r hyn rwy'n gallu ei wneud, wedi gwneud i mi sylweddoli na ddylwn i fod yn teimlo mor isel ynghylch y sefyllfa. Mewn gwirionedd, roedd gen i lawer i'w gynnig.”

Mae hi'n annog eraill i ddefnyddio'r gwasanaeth am ddim.

“Os ydy rhywun yn ansicr ynghylch sut i ddod o hyd i’r yrfa orau iddyn nhw, neu os oes angen cymorth i fireinio CV, neu os oes ganddyn nhw’r sgiliau ond ddim yn gwybod sut i frolio’u hunain, byddwn yn argymell eu bod yn cysylltu â Cymru’n Gweithio. Mae'n wasanaeth am ddim ac rwy'n siŵr y byddant yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i symud i'r cyfeiriad cywir.”

Os ydych chi wedi colli eich swydd, ewch i’n tudalen cymorth ar ôl colli swydd, neu cysylltwch â ni.


Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct Plws

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni