Yn dilyn colli ei swydd newidiodd Katherine ei gyrfa yn llwyddiannus gyda chymorth Cynghorydd Gyrfa.
Wynebu colli swydd
Roedd Katherine, 35 oed, sy’n byw yn Abertawe, wedi colli ei swydd ym mis Mawrth 2023. Roedd hi wedi bod yn ymchwilydd mewn prifysgol ers bron i naw mlynedd. Roedd hi’n gweithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy.
Nid oedd Katherine yn siŵr beth i’w wneud nesaf. Dechreuodd archwilio ei hopsiynau ar-lein a daeth ar draws Cymru’n Gweithio.
Cael cymorth
Trefnodd Katherine gyfarfod gyda chynghorydd gyrfa, Lindsey Roberts.
Dywedodd: “Roeddwn i’n eithaf nerfus, ond roedd fy nghynghorydd i’n gefnogol iawn. Gwnaeth hi fy helpu i gymryd cam yn ôl i werthuso fy opsiynau.”
Gyda’i gilydd, buon nhw’n trafod sgiliau Katherine ac yn archwilio llwybrau gyrfa newydd. Awgrymodd Lindsey y dylai Katherine wneud cwis gyrfaoedd. Gallai’r cwis hwn ei helpu i ddeall ei chryfderau a’i diddordebau yn well.
Sylweddolodd Katherine y gallai symud i’r diwydiant technoleg. Roedd hi wastad wedi bod yn chwilfrydig am y maes gwaith hwn.
Magu hyder
Dechreuodd Katherine ddysgu sut i godio ar ei phen ei hun. Anogodd ei chynghorydd hi hefyd i fynd i ddigwyddiad ‘Merched ym maes technoleg’ yn swyddfa’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Dywedodd Katherine: “Roeddwn i’n nerfus i ddechrau, ond roedd y digwyddiad yn agoriad llygaid. Dysgais i am ddatblygu meddalwedd a darganfyddais i gyfleoedd doeddwn i ddim wedi’u hystyried o’r blaen.”
Yn y digwyddiad, dysgodd Katherine am sesiwn hyfforddi codio dwys o’r enw Code First Girls. Cofrestrodd ar gyfer y cwrs, a helpodd hi i ennill y sgiliau technegol yr oedd eu hangen arni. Erbyn diwedd 2023, roedd hi’n barod i wneud cais am rolau datblygu meddalwedd.
Gwneud cais am swyddi
Roedd Katherine yn wynebu heriau ar hyd y daith. Ni lwyddodd i gael rhai o’r swyddi yr oedd hi wedi gwneud cais amdanynt, ond ni roddodd y ffidil yn y to. Awgrymodd Lindsey y gallai fod yn ddefnyddiol i Katherine weld anogwr cyflogadwyedd.
Mae Aaron Jenkins yn hyfforddwr cyflogadwyedd gyda Cymru’n Gweithio. Helpodd Katherine i baratoi ar gyfer ei chyfweliadau gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.
Dywedodd: “Roedd yr adborth a ges i ar ôl y cyfweliadau yn amhrisiadwy. Ces i ddau gyfweliad gyda’r DVLA. Ches i ddim y swydd gyntaf, ond gwnaeth yr adborth fy helpu i i baratoi ar gyfer yr ail swydd, a llwyddais i gael honno.”
Ym mis Mehefin 2024, dechreuodd Katherine ei rôl newydd fel peiriannydd datblygu cod ar gyfer profi meddalwedd yn y DVLA.
Dywedodd: “Mae'n anhygoel wneud swydd rydw i wir yn ei mwynhau. Weithiau mae’n rhaid i mi fy atgoffa fy hun i beidio â gorweithio oherwydd rydw i’n frwd iawn drosti.”
Myfyrio ar y daith
Dywedodd Katherine: “Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to. Daliwch ati, hyd yn oed pan fydd hi’n teimlo fel petaech chi ddim yn gwneud unrhyw gynnydd. Defnyddiwch yr holl adnoddau sydd ar gael i chi a chredwch yn eich gallu i addasu a thyfu.”
Dywedodd hi hefyd: “Gwnaeth fy nghynghorydd fy helpu i i nodi fy sgiliau trosglwyddadwy. Gwnaeth fy annog i i fynd i ddigwyddiadau a oedd y tu hwnt i’r hyn a oedd yn gyfarwydd i fi. Roedd y profiadau hynny’n bwysig iawn o ran magu fy hyder i ac agor drysau i gyfleoedd newydd.”
Edrych tua’r dyfodol
Mae Katherine yn llawn cyffro am ei dyfodol ym maes technoleg. Dywedodd: “Dydw i ddim yn gwybod yn union sut olwg fydd ar y pump neu ddeng mlynedd nesaf, ond rydw i wedi ymrwymo i ddatblygu fy sgiliau yn y maes hwn a gwneud y gorau o’r llwybr newydd hwn.”
Os ydych chi wedi colli eich swydd, ewch i’n tudalen cymorth ar ôl colli swydd, neu cysylltwch â ni.
Archwilio

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.