Bu cyngor ar yrfaoedd yn gymorth i Freya wneud penderfyniadau mwy gwybodus am ei dyfodol.
Roedd Freya o Wynedd yn ansicr beth i'w wneud ar ôl ysgol. Roedd ganddi syniadau ond nid oedd yn gwybod sut i gysylltu ei diddordebau ag opsiynau gyrfa.
Cefnogaeth gan Gyrfa Cymru
Cafodd Freya gyfarfodydd unigol gyda chynghorydd gyrfa ei hysgol, Guto. Fe wnaethon nhw edrych gyda'i gilydd ar ei hopsiynau.
Dywedodd hi: “Cyn y cyfarfodydd hyn, doedd gen i ddim syniad am y gwahaniaeth rhwng Safon Uwch, y chweched dosbarth ac opsiynau eraill. Roedd siarad â rhywun yn help mawr. “Roeddwn i wastad yn methu penderfynu rhwng dau opsiwn, ond doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd y gwahaniaeth. Fe wnaeth siarad â Guto fy helpu i ddeall y cymwysterau oedd eu hangen arna i. Fe helpodd fi i archwilio’r mathau o swyddi y gallwn i eu cael gyda nhw.”
Gwneud penderfyniadau
Trwy siarad â Guto, dysgodd Freya am opsiynau fel prentisiaethau a cholegau lleol. Dywedodd Freya: “I ddechrau roeddwn i eisiau astudio seicoleg neu rywbeth yn y byd ffasiwn neu ddawns. Ar ôl dysgu mwy, fe benderfynes i ddilyn cyrsiau Safon Uwch yn y Cyfryngau, y Gyfraith a Saesneg.
“Roeddwn i’n teimlo y byddai hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i fi wrth ddod o hyd i swyddi yn y dyfodol.” Rhoddodd Guto adnoddau i Freya a’i helpu i drefnu cyfweliadau gyda cholegau. Roedd y broses yn llai llethol o’r herwydd.
Edrych tua'r dyfodol
Mae Freya nawr yn teimlo'n fwy hyderus am ei dyfodol. Mae hi'n ystyried prifysgol a phrentisiaethau fel opsiynau posibl ar ôl bod i’r coleg.
Dywedodd hi: “Rwy’n teimlo bod fy meddwl yn gliriach am yr hyn y galla i ei gyflawni. “Mae siarad â rhywun sy’n gwybod mwy am y pethau hyn yn help mawr. Mae’n dda edrych ar wahanol gyfleoedd fel y gallwch chi ddewis rhywbeth arall os na gewch chi raddau penodol."
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Archwilio
Dysgwch beth i'w ddisgwyl yn y coleg neu chweched dosbarth - pa gymorth ariannol y gallech ei gael, at ba yrfaoedd mae gwahanol gyrsiau'n arwain, a rhagor.
P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.
Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Darllen mwy o straeon go iawn
Mae’r myfyriwr graddedig o Rydaman yn annog pobl ifanc i ystyried yn ofalus eu hopsiynau wrth gasglu eu canlyniadau eleni.
Byddai Cian Owen, sy’n 22 oed o Fangor, byth wedi dychmygu y byddai'n cael gyrfa yn y sector gofal plant ar ôl gadael yr ysgol.
Helpodd cymorth gyrfa Katy i wneud cais llwyddiannus am ei chwrs delfrydol yn y coleg.