Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Sam

Llun o Sam efo eiconau brandio Cymru'n Gweithio

Gwnaeth cynghorydd gyrfa Sam ei gefnogi i adnabod ei gamau nesaf i’r brifysgol.

Yn ystod yr haf cyn dechrau Blwyddyn 12, roedd Sam wedi cwblhau profiad gwaith mewn milfeddygfa. Gwnaeth hyn gadarnhau ei uchelgais i fod yn filfeddyg.

Heriau cychwynnol

Roedd Sam, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn astudio ar gyfer cymwysterau Safon Uwch mewn bioleg, ffiseg a chemeg pan ddechreuodd ym Mlwyddyn 12.

Ar ôl dechrau ei ddosbarthiadau, sylweddolodd Sam yn gyflym nad oedd cemeg, pwnc sydd ei angen yn aml ar gyfer cyrsiau milfeddygol, yn bwnc iawn iddo.

Dywedodd Sam: “Roedd yn anghyfarwydd iawn i mi. Gwnes i ddarganfod na allwn i orffen y ddwy flynedd lawn yn gwneud rhywbeth nad oeddwn i’n ei fwynhau. Felly cysylltais â Claire, fy nghynghorydd gyrfa yn yr ysgol, a gwnaeth hi siarad dros y peth gyda mi.”

Cael cyngor

Dywedodd Claire wrth Sam ei bod yn amser da i wneud newid yn ystod y cam cynnar hwn yn ei daith Safon Uwch, os mai dyna oedd ei eisiau.

Dywedodd ef: “Gwnaethon ni siarad dros y peth, a gwnaeth hi fy helpu i sylweddoli fy mod i’n mwynhau fy ngwaith bioleg yn llawer mwy dros yr ychydig wythnosau cyntaf yn yr ysgol.”

Gwnaeth Claire gefnogi Sam i archwilio ei holl opsiynau, a pha gyrsiau prifysgol y gallai eu gwneud.

Eglurodd Sam: “Roeddwn i eisiau gweithio gydag anifeiliaid o hyd oherwydd bod hynny’n ysgogiad enfawr i mi, a daethon ni i’r penderfyniad y byddai’n dda ymchwilio i wneud rhywbeth fel y gwyddorau biolegol neu sŵoleg yn y brifysgol.”

Y camau nesaf

Daeth Sam i wybod gan Claire am y radd meistr integredig, sy'n cyfuno gradd baglor ag astudiaethau ôl-raddedig. Dywedodd Sam: “Roedd y graddau gen i felly roeddwn i eisiau gweithio tuag at y prifysgolion gorau.

“Dros yr haf, bûm yn gweithio gyda Claire ar fy natganiad personol. Yna, dechreuais fy nghais UCAS, ac yn y pen draw gyda chymorth Claire, gwnes i gais i wneud sŵoleg ym Mryste, Manceinion, Glasgow a Chaerwysg a chefais gynigion gan y pedwar ohonyn nhw.”

Edrych tua’r dyfodol

Dewis cyntaf Sam yw Prifysgol Bryste, lle mae’n gobeithio astudio gradd meistr integredig mewn sŵoleg.

Ei nod hirdymor yw ennill PhD a gwneud ymchwil sy'n canolbwyntio ar anifeiliaid ac ymddygiad anifeiliaid. Rhannodd ef: “Dw i eisiau gwneud sŵoleg yn fwy na dim.”

Cyngor i gyfoedion

Mae Sam yn cynghori pobl ifanc eraill: “Peidiwch â chynhyrfu. Dewch o hyd i rywun i siarad ag ef. Siaradwch ag ef am beth bynnag rydych chi'n ei deimlo, dywedwch wrtho beth yw eich pryderon ac ewch ymlaen oddi yno.

“Rwy’n siŵr, beth bynnag a wnewch chi, beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud yn eich cymwysterau Safon Uwch neu eich cymwysterau TGAU, y byddwch chi’n dod o hyd i gymorth a byddwch chi’n gallu symud ymlaen a defnyddio pa gymwysterau bynnag sydd gennych chi i fynd a gwneud y pethau hynny rydych chi wir yn eu mwynhau.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Ar ôl gadael yr ysgol

Cael help i benderfynu beth i'w wneud ar ôl gadael yr ysgol. Darganfyddwch beth yw eich opsiynau, gan gynnwys prentisiaethau, hyfforddiant, cael swydd, addysg bellach a mwy.

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.


Darllen mwy o straeon go iawn

Ceri's story

Ceri Vaughan Jones is going to university after taking a year out to work.

Stori Scott

Scott Gilmour: Ar y trywydd iawn i gael gradd yn y gyfraith...