Mae Scott, sy’n 19 oed, newydd gwblhau ei flwyddyn gyntaf yn astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Durham ar ôl cael dwy A* a dwy A yn ei bynciau Safon Uwch y llynedd.
Meddai Scott: “Ar ôl i’r arholiadau gael eu canslo y llynedd, roedd cael fy nghanlyniadau ac yna dechrau yn y brifysgol yn brofiad rhyfedd a dweud y lleiaf.
“Roeddwn i’n awyddus iawn i fynd i’r brifysgol er gwaethaf popeth gan fy mod wastad wedi bod eisiau mynd.
“Oherwydd Covid, dw i ddim wedi gallu cymdeithasu rhyw lawer yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ond ar nodyn cadarnhaol, rwyf wedi gwneud ffrindiau da gyda’r bobl rwy’n byw gyda nhw gan ein bod wedi treulio mwy o amser gyda’n gilydd. Mae’r profiad hwn wedi dysgu rhai o sgiliau bywyd pwysig i mi fel bod yn barod i addasu a chynnal eich cymhelliant.
“Dwi ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf ar ôl i mi orffen yn y brifysgol, ond bydd cael gradd yn golygu y bydd nifer o opsiynau gyrfa ar agor i mi.”
Archwilio
Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.
Dysgwch beth i'w ddisgwyl yn y coleg neu chweched dosbarth - pa gymorth ariannol y gallech ei gael, at ba yrfaoedd mae gwahanol gyrsiau'n arwain, a rhagor.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn
Ceri Vaughan Jones is going to university after taking a year out to work.
Begw Rowlands: A year out has helped me plan my future...
Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.