Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Evelyn

Llun o  Evelyn

Darganfu Evelyn ei hangerdd am y cyfryngau diolch i athrawes ysbrydoledig yn ystod ei harholiadau TGAU a Safon Uwch.

Er ei bod hi’n mwynhau astudio astudiaethau'r cyfryngau, roedd hi eisiau dysgu mwy am y pwnc yn y gweithle a thrwy brofiad ymarferol.

Prentisiaeth gyda'r BBC

Wrth adael yr ysgol, penderfynodd Evelyn wneud cais am brentisiaeth yn BBC Cymru, a thrwy Sgils Cymru mae hi bellach yn gweithio yn yr adran gynhyrchu greadigol ac yn ennill arian wrth ddysgu.

Er ei bod yn hyderus yn ei phenderfyniad i ddysgu yn y swydd, roedd Evelyn yn dal i feddwl tybed a ddylai fod wedi dilyn yr un llwybr â'i ffrindiau.

"Cyn i mi ddechrau'r brentisiaeth, roeddwn i'n poeni pe na bawn i'n mynd i'r brifysgol, y byddwn i'n colli allan ar y profiad. Ond, ers dechrau fy mhrentisiaeth, rwy'n dal i weld fy ffrindiau a aeth i'r brifysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol gyda nhw.

Does dim dau ddiwrnod yr un peth

Yn ei rôl bresennol, mae Evelyn yn gweithio gyda thîm creadigol bach ac mae wedi cael cyfle i weithio ar amrywiaeth o brosiectau cyffrous.
"Rydw i wir yn mwynhau'r amrywiaeth o swyddi gwahanol, a does dim dau ddiwrnod yr un peth!”

Mae hi hefyd wedi cael cyfle i ddysgu'n uniongyrchol gan gyfoedion yn y diwydiant.

"Rwy'n gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant bob dydd. Mae gan y bobl o'm cwmpas gymaint o wybodaeth am gynhyrchu. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw a dysgu oddi wrthyn nhw. Fe wnes i hyd yn oed eistedd mewn sioe frecwast BBC Radio 1 gyda Greg James!

“Yn gweithio yn yr adran cynhyrchu creadigol, mae rhywfaint o fy rôl yn cynnwys helpu’r tîm i greu rhaghysbysebion ar gyfer rhaglenni. Mae'n anhygoel gweld fy ngwaith fy hun ar y teledu. Fe wnes i wylio’r rhaghysbyseb ar gyfer Euros y merched ychydig wythnosau yn ôl a dyma gallu dweud, 'Fi wnaeth greu hwn!'

Dysgu ymarferol

Trwy brentisiaeth, mae Evelyn wedi dod o hyd i lwybr gyrfa sy'n gweddu orau iddi. "Rwyf am i bobl wybod bod llawer o opsiynau sy werth eu harchwilio. Nid yw dysgu arddull dosbarth ac asesiadau arholiad at ddant pawb, mae ffyrdd eraill o ennill profiad a gwybodaeth.”

"I mi, mae'r dysgu ymarferol a gynigir drwy brentisiaeth yn gweithio'n well."

"Mae wedi bod yn anhygoel cael fy nhalu i ddysgu yn y gwaith hefyd! O ganlyniad, rwy'n dysgu sgiliau bywyd pwysig eraill, sut i reoli fy sefyllfa ariannol fy hun, ac rwyf wedi gallu arbed arian."

Hanner ffordd drwy ei phrentisiaeth, does dim amheuaeth gan Evelyn ei bod wedi gwneud y penderfyniad cywir.

“Mae gwneud prentisiaeth wedi agor fy llygaid i faint o wahanol yrfaoedd sydd yna ac wedi ehangu fy ngorwelion.”


Archwilio

Prentisiaethau

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.


Darllen mwy o straeon go iawn

Stori Lucie

Mae entrepreneur o Sir Benfro yn annog pobl ifanc i ystyried eu hopsiynau wrth gael eu canlyniadau yr haf hwn.

Stori Alys

Mae’r myfyriwr graddedig o Rydaman yn annog pobl ifanc i ystyried yn ofalus eu hopsiynau wrth gasglu eu canlyniadau eleni.