Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Lucie

Llun o Lucie

Mae entrepreneur o Sir Benfro a sefydlodd ei busnes gofal gwallt ei hun ar ôl gadael yr ysgol yn annog pobl ifanc i ystyried eu hopsiynau wrth gael eu canlyniadau yr haf hwn.

Yn 2019, roedd Lucie Macleod yn chwilio am gynnyrch gwallt i adfywio ei gwallt a oedd wedi difrodi yn dilyn blynyddoedd o gannu a cham-drin.

"Ar ôl treialu amrywiaeth o wahanol gynhyrchion, roedd y casgliad yr un peth. Roedd y cynhyrchion gwallt ar y farchnad naill ai'n ddrud iawn, ddim yn cael effaith barhaol, ddim yn diwallu ei hanghenion gwallt penodol, neu bob un o’r uchod.".

Archwilio syniadau

Yn benderfynol o beidio â rhoi'r gorau iddi, dechreuodd Lucie ymchwilio i sut i greu ei chynhyrchion gofal gwallt ei hun. Ar ôl mentro-a-methu, dyma Lucie yn llunio cynnyrch a oedd yn berffaith iddi.

Gan gydnabod bod ganddi gynnyrch y gallai ei farchnata, sefydlodd Lucie ei busnes ei hun, Hair Syrup. Dywedodd hi: "Mewn cymunedau gwledig fel Sir Benfro, does dim cymaint o gyfleoedd creadigol i bobl ifanc.

"I mi, roedd sefydlu fy musnes fy hun yn fy ngalluogi i fynd ar drywydd rhywbeth roedd gen i wir ddiddordeb ynddo."

Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol

Sefydlodd Lucie gyfrif TikTok a dechreuodd rannu tiwtorialau gwallt gan ddefnyddio'r cynnyrch yr oedd wedi'i wneud. Aeth ei sesiynau tiwtorial yn feirol, gyda dilynwyr yn cynnig cymaint â £30 iddi am botel 50ml.

“Byddwn i’n dweud yn bendant mai’r cyfryngau cymdeithasol yw eich ffrind gorau pan rydych chi’n ceisio dechrau rhywbeth felly, oherwydd yn llythrennol mae gennych chi fynediad i’r byd i gyd drwy glicio botwm,” meddai.

Erbyn heddiw, mae Lucie wedi gwerthu miloedd o boteli o gynnyrch gofal gwallt ac wedi cronni bron i 80,000 o ddilynwyr ar ei phlatformau cyfryngau cymdeithasol.

"Mae llawer o bobl yn meddwl, pan fyddwch chi'n cychwyn busnes, bod angen llwyth o arian arnoch chi, swyddfa crand, ac mae'n rhaid i chi fyw yn Llundain neu mewn dinas fawr. Y gwir amdani yw nad oes angen unrhyw un o'r rhain arnoch. Dechreuais fy musnes yn y ‘conservatory’ twt yn nhŷ Mam a Dad.

Gwneud y mwyaf o'i sgiliau

"Does dim angen gradd arnoch chi chwaith i ddechrau busnes. Cefais gymaint o sgiliau yn yr ysgol sydd wedi dod yn amhrisiadwy wrth redeg fy musnes. Mae sgiliau ysgrifennu creadigol wedi helpu gyda phethau fel dylunio cynnyrch, labeli cynnyrch ac ysgrifennu copi ar fy ngwefan."

Mae Lucie yn credu bod dechrau busnes yn opsiwn gwych ar ôl gadael addysg. Dywedodd hi: “Mae’n braf gwybod, os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, bod dechrau eich busnes eich hun ac adeiladu rhywbeth i chi’ch hun bob amser yn opsiwn.

Cyngor i eraill

"Dewch o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb mawr i chi. Os oes gennych chi unrhyw fath o syniad a allai weithio, ewch amdani i weld be ddaw. Neu, os am fentro lawr llwybr gwahanol, beth am brentisiaeth neu fynd yn syth i'r gweithle, gallwch chi wneud hynny yn sicr.

"Gallwch gysylltu â Cymru'n Gweithio i gael cefnogaeth a chyngor. Pe bawn i'n cael cyfle arall, byddwn i wrth fy modd yn manteisio ar y cyfle."


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.


Darllen mwy o straeon go iawn

Stori Alys

Mae’r myfyriwr graddedig o Rydaman yn annog pobl ifanc i ystyried yn ofalus eu hopsiynau wrth gasglu eu canlyniadau eleni.

Stori Evelyn

Darganfu Evelyn ei hangerdd am y cyfryngau diolch i athrawes ysbrydoledig yn ystod ei harholiadau TGAU a Safon Uwch.