Fe wnaeth cynghorydd gyrfaoedd Clare ei helpu i gyrchu cyllid ReAct+ i ariannu ei chwrs hyfforddi a rhoi hwb i'w busnes iechyd a lles.
Ymddeoliad cynnar
Treuliodd Clare, sy'n byw yn Wrecsam, ddegawd yn y GIG fel therapydd galwedigaethol a bu'n gweithio ym maes gofal iechyd ers iddi fod yn 17 oed. Bu'n rhaid iddi ymddeol yn gynnar yn 55 oed oherwydd symptomau COVID hir.
Wrth i'w hiechyd wella dros amser, teimlai Clare nad oedd hi'n barod i ymddeol eto.
Datblygiad proffesiynol
Roedd Clare wedi hyfforddi fel hyfforddwr lles yn flaenorol ac roedd yn bwriadu dilyn hyn yn rhan-amser cyn gynted ag y byddai'n ddigon cryf. Fodd bynnag, teimlai fod bwlch yn ei sgiliau a'i gwybodaeth.
I fynd i'r afael â hyn, daeth Clare o hyd i gwrs dwys Rhaglennu Niwroieithyddol yng Nghaerdydd. Darganfu ei bod yn gymwys am grant ReAct+.
“Roedd sylweddoli y gallwn i gael grant i fy helpu yn anhygoel. Fe gymerodd y pwysau ariannol i ffwrdd a rhoddodd y rhyddid i mi ddweud "ie". Dyna’r peth gorau wnes i erioed.”
Cysylltodd Clare â Gyrfa Cymru am ragor o gyngor a threfnwyd apwyntiad ffôn iddi gyda Debbie, cynghorydd gyrfaoedd yn Cymru’n Gweithio.
Cefnogaeth gan Cymru'n Gweithio
Yn ystod yr apwyntiad gyda Debbie, rhannodd Clare ei chynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol, a buont yn trafod yr wybodaeth angenrheidiol yr oedd ei hangen ar Clare i wneud cais am ReAct+.
Dywedodd Clare: “Roedd Debbie bob amser yn gwirio gyda mi ei bod hi wedi deall yr wybodaeth roeddwn i’n ei darparu. Roedd hi'n ymwybodol iawn bod angen i mi deimlo bod rhywun yn gwrando arna i.
“Sicrhaodd hi hefyd fod ein hapwyntiadau ar amser oedd yn addas i mi a rhoddodd wybod i mi am unrhyw newidiadau drwy neges destun neu e-bost. Ni allai hi fod wedi bod yn fwy cymwynasgar!
“Fe wnaethon ni weithio gyda’n gilydd i gael y canlyniad gorau ar y cais am gyllid – ac roeddwn i wrth fy modd o fod wedi bod yn llwyddiannus a gallu bwrw ymlaen â’r cwrs.”
O fewn ychydig wythnosau, aeth Clare i Gaerdydd i ddechrau'r cwrs y credai oedd yn hanfodol ar gyfer lansio ei busnes.
Dyfodol disglair a gobeithiol
Pan gwblhaodd Clare ei chwrs, daeth yn hyfforddwr Rhaglennu Niwroieithyddol cymwysedig ac yn ymarferydd hypnotherapi.
“Diolch i’r cwrs hwn galla i symud ymlaen mewn ffordd hyderus ac ymarferol iawn gyda fy musnes fy hun.
“Rwy’n cymryd fy amser i roi’r busnes at ei gilydd. Dydw i ddim yn ei ruthro ac rwy'n mwynhau'r daith.
“Mae’r gefnogaeth i ailymuno â’r gweithlu wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i mi yn ariannol, yn ogystal â rhoi hwb i fy hyder a’m cymhelliant, yn dilyn cyfnod anodd iawn yn fy mywyd.”
Os hoffech chi ymchwilio i'ch diddordebau a'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfaoedd, cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.
Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
Sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori.