Cynorthwyodd cymorth gyrfa Natalie i droi’r diddordeb angerddol yr oedd ganddi yn ystod ei phlentyndod yn realiti gyrfa yn ei phumdegau.
Cefndir ym myd addysg
Mae Natalie Gudgeon yn wreiddiol o’r Alban, ond bellach yn byw ym Mro Morgannwg. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed a dechreuodd ei thaith gyrfa. Bu’n gweithio ym myd addysg, yn addysgu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) a hefyd y celfyddydau a’r dyniaethau.
Bu Natalie yn addysgu pob ystod oedran, o'r cyfnod cyn-ysgol i'r ysgol uwchradd ac addysg oedolion lefel gradd. Gweithiodd mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys ysgolion a cholegau, cyfleustodau, TG a seiberddiogelwch. Treuliodd gryn dipyn o amser yn lluoedd arfog y DU, lle bu’n teithio’r byd.
Roedd Natalie’n caru coginio a phobi, rhywbeth yr oedd wedi’i garu ers yn ifanc iawn. Nid oedd hi erioed wedi mynd ar drywydd hyn yn broffesiynol. Meddai Natalie, “Yr unig brofiad cysylltiedig â gwaith a gefais i yn y diwydiant bwyd oedd ar ddiwedd y 1990au, pan addysgais i dechnoleg bwyd a maeth am ychydig llai na blwyddyn i blant ac oedolion ifanc, ac i gynorthwyo fy myfyrwyr, cwblheais i gwrs hylendid bwyd”.
Afiechyd ac arafu
Yn ei phedwardegau, dioddefodd Natalie salwch, a dechreuodd feddwl am y cydbwysedd rhwng ei bywyd a’i gwaith. Penderfynodd adael y fyddin yn gynnar o wirfodd yn 2013.
Ar ôl hyn, bu Natalie yn gweithio mewn swyddi a oedd yn fwy addas i'w iechyd a'i hymrwymiadau teuluol. Roedd hi hefyd yn mwynhau gwneud gwaith gwirfoddol, gan ddefnyddio ei phrofiad i helpu eraill wrth iddynt adael y fyddin.
Cafodd Natalie salwch eto yn 2021, salwch a oedd yn newid ei bywyd am byth. Daliodd y ffliw, a waethygodd ei chyflwr iechyd. Bu'n rhaid iddi gymryd i'w gwely ac arweiniodd hyn at ei chofrestru’n anabl.
Dod o hyd i gymorth gyrfa
Yn ystod ei hadferiad, edrychodd Natalie ar wahanol feysydd o'i bywyd. Roedd angen iddi gael cymorth gyrfa ar gyfer ei merch ddi-waith sydd hefyd ag anabledd.
Daeth Natalie ar draws Gyrfa Cymru. Canfu, drwy wasanaeth Cymru’n Gweithio, y gallai hi a’i merch gael mynediad at gymorth gyrfa am ddim.
Pan yn ddigon iach, cyfarfu Natalie â chynghorydd Cymru'n Gweithio, Andrea, a oedd yng nghanolfan gyrfaoedd Caerdydd. Dywed Natalie, “Yn y sesiynau cychwynnol gydag Andrea, fe ddechreuon ni archwilio fy nyheadau gyrfa a allai weithio gan ystyried fy iechyd a’r cyfyngiadau rwy’n eu hwynebu. Trwy’r cyfarwyddyd, dechreuais hefyd siarad am y diddordeb angerddol oedd gen i yn ystod fy mhlentyndod mewn coginio a phobi”.
Oedodd taith gyrfa Natalie eto pan gafodd gwymp a hynny deirgwaith, a oedd yn golygu na allai gerdded. Defnyddiodd yr amser hwn i ganolbwyntio ar yr agweddau y siaradodd amdanynt yn ystod ei hadolygiad gyrfa gydag Andrea. Penderfynodd Natalie adnewyddu ei thystysgrif diogelwch bwyd, a gwblhaodd ar-lein.
Edrych tua'r dyfodol
Dechreuodd Natalie newid yn ei gyrfa yn araf. Dechreuodd gyda swyddi arlwyo bach ar sail hunangyflogedig. Yna llwyddodd i gael swydd fel chef-de-partie ar sail hyblyg, rhan-amser. Roedd hyn yn addas ar gyfer Natalie oherwydd gallai weithio gan ystyried ei chyflyrau iechyd.
Wrth siarad am ei newid gyrfa, dywed Natalie, “Rwyf wedi gallu ailddarganfod fy angerdd a chariad at goginio a phobi bwyd iachus o safon a oedd gen i yn ystod fy mhlentyndod, ac rwy wedi dechrau gwneud hyn yn yrfa newydd i mi yn fy mhumdegau!
“Doedd hi erioed wedi fy nharo o’r blaen y gallai fy mwynhad o goginio a phobi ddod yn yrfa i mi yn 53 oed, nes i mi gael cyfarwyddyd gan Andrea.
“Roedd y sesiynau gydag Andrea yn allweddol i’m hysbrydoli ac i adfywio fy hunanhyder. Fe wnaethant hefyd fy helpu i ddod o hyd i'r dewrder i ofyn yn syml i ddarpar gyflogwyr am swydd.
“Rwy’n teimlo’n ffodus i fod mewn cyflogaeth â thâl, mewn gyrfa rwy’n ei charu, mewn cegin fasnachol sy’n cael ei rhedeg yn wych. Rwy’n derbyn hyfforddiant yn y gwaith ac yn parhau i ddysgu cymaint”.
Gan edrych tuag at y dyfodol, hoffai Natalie adeiladu busnes nwyddau cartref wedi’u pobi y mae hi'n ei alw'n 3Gs: Gorgeous Gudgeon Grub.
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Natalie, gallwch archebu adolygiad gyrfa am ddim i'ch helpu i newid gyrfa.
Archwilio
Roedd angen cymorth ar Lia i ddod o hyd i swydd newydd a oedd yn caniatáu cydbwysedd hyblyg rhwng bywyd a gwaith.
Cafodd Lee adolygiad gyrfa i'w helpu i bontio o'r fyddin.
Gweld sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu gyrfa.
Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad gyrfa rhad ac am ddim.