Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Kavan

Kavan, dysgwr gwasanaethau busnes, yn defnyddio cyfrifiadur

Mae Kavan yn troi ei frwdfrydedd oes yn yrfa.

Ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+

Mae Kavan, o Aberdâr, yn awyddus i fod yn guradur mewn amgueddfa. Ymunodd â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ar yr elfen Datblygu ac mae’n astudio Gwasanaethau Busnes.

Eglura Kavan: “Clywais am Twf Swyddi Cymru+ gan rywun yn yr ysgol a ddywedodd ei fod yn ffordd arall o ddysgu. Eglurodd eich bod yn cael eich trin yn fwy fel oedolyn a'ch bod hefyd yn cael eich talu. Roeddwn i’n teimlo’n gyffrous iawn am y peth ac yn dymuno gwneud cais.”

“Mae gweithio fel curadur mewn amgueddfa wedi bod yn uchelgais gen i erioed, ac roeddwn i’n gwybod bod angen i mi ddatblygu sgiliau penodol ar gyfer hyn. Dewisais y cwrs Gwasanaethau Busnes er mwyn dysgu mwy am sut mae busnesau’n gweithio a sut i redeg a bod yn berchen ar un yn llwyddiannus.”

Ac yntau wedi dangos ei ddyhead dros ddysgu a’i angerdd dros ei yrfa ar gyfer y dyfodol, mae Kavan bellach yn awyddus i gael profiad uniongyrchol yn y diwydiant.

“Yn ogystal ag astudio Gwasanaethau Busnes, rwyf wedi cwblhau Lefel 2 Saesneg ac wedi dod i ddeall yn well sut i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu yn y ‘byd y tu allan’.

“Rwyf hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu nifer o ddiwrnodau cyfoethogi. Fe wnes i gwrdd â fy AS lleol yn un ohonyn nhw, i drafod costau byw, a chawsom ddiwrnod cwrdd i ffwrdd ar un arall, er mwyn deall gwahanol feysydd gwaith. Bydd yr holl brofiadau hyn yn aros gyda mi am weddill fy mywyd.”

Goresgyn rhwystrau

Er gwaethaf ei lwyddiant, nid yw siwrnai Kavan wedi bod yn hawdd. Fel llawer o bobl ifanc eraill, roedd yn rhaid i Kavan ddechrau ei daith ddysgu ar-lein ac roedd yn cael trafferth siarad â phobl eraill i ddechrau.

Dywed: “Cefais ddiagnosis o iselder yn ystod y pandemig, a hwn oedd y pwynt isaf yn fy mywyd. Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod yn fi fy hun yn yr ysgol a mynegi fy unigolrwydd. Ond, ers ymuno â’r rhaglen, rwy’n teimlo’n fwy a mwy hyderus i fod yn fi fy hun go iawn.

“Rwy’n berson llawer mwy agored â phobl nawr ac rwyf wrth fy modd yn gallu siarad am fy niddordebau mor rhydd.

“Ar y rhaglen, rwyf bob amser yn cael fy annog i wneud yr hyn rwy’n ei hoffi, ac mae fy nhiwtoriaid mor garedig a gofalgar. Maen nhw’n gwneud llawer o ymdrech ac maen nhw’n falch o’r hyn maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n gwneud i bobl ifanc deimlo. Rwyf hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau y gallaf droi atyn nhw a siarad â nhw.”

Y camau nesaf

Mae Kavan nawr yn edrych ymlaen at y dyfodol.

Dywed: “Bob mis, byddaf yn cael adolygiad gyda fy nhiwtoriaid i drafod fy nghamau nesaf. Rwyf wedi bod yn awyddus i ddechrau rhywfaint o brofiad gwaith mewn amgueddfa yn Aberdâr ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu fy sgiliau er mwyn fy helpu i gael fy swydd ddelfrydol.

“Rwy’n edrych ymlaen  at ddod o hyd i swydd ran-amser i barhau i ennill arian. Mae cael fy nhalu wedi rhoi rhyddid i mi fod yn annibynnol. Rwyf wrth fy modd yn mynd i’r sinema gyda fy chwaer a gallu fforddio i brynu pethau celf i fynegi fy hun.

“Mae’r rhaglen hefyd wedi helpu i dynnu’r pwysau oddi ar fy rhieni. Maen nhw’n hoffi nad ydw i’n eistedd yn y tŷ bob dydd a fy mod i’n gwneud rhywbeth rhagweithiol gyda fy mywyd.

Rhwng popeth, mae Twf Swyddi Cymru+ yn sicr wedi helpu i drawsnewid fy mywyd. Mae wedi fy ysbrydoli i ddilyn fy niddordebau ac i beidio byth â rhoi’r gorau i fynd amdani.”


Archwilio

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Straeon go iawn

Dewch i wybod sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori gyda Twf Swyddi Cymru+.