Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn gwaith ag elfen o astudio. Fel prentis, cewch brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, gan ennill cyflog ar yr un pryd.
Ar brentisiaeth, rydym yn cynnig help sy'n benodol i chi wrth ichi ddysgu a gweithio. Os ydych chi'n chwilio am waith neu'n gobeithio newid gyrfa, prentisiaeth o bosib yw'r peth i chi.
Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau neu cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy.
Am brentisiaethau
Mae prentisiaethau yng Nghymru ar gael i amrywiaeth o bobl. Maen nhw'n gallu rhoi cyfle teg a chyfartal i roi hwb i'ch gyrfa. Mae pob math o swyddi mewn amrywiaeth o ddiwydiannau ar gael. Dysgwch fwy:
Dysgwch sut i ennill cymwysterau a sgiliau wrth weithio ac ennill cyflog.
Dysgwch ble mae yna brentisiaethau gwag a sut i greu ffurflen gais sy’n mynd i lwyddo.
Darganfyddwch rai o gyflogwyr mawr Cymru yn cymryd prentisiaid ymlaen.
Straeon go iawn
Ni ddylai’r ffaith fod gennych nam neu gyflwr iechyd gyfyngu ar eich dewis o yrfa. Darllenwch sut mae’r bobl hyn wedi defnyddio prentisiaethau i newid eu stori:
Dywed Safyan, sydd yn Brentis Creadigol, taw ei brentisiaeth yn ITV yw profiad gorau ei fywyd...
Mae prentisiaeth mewn gofal plant yn helpu Ellie i ddilyn gyrfa ei breuddwydion...
Mae Ben wedi adennill ei hyder trwy ddechrau prentisiaeth...
Cynnwys cysylltiedig
Am fwy o wybodaeth, ewch i Prentisiaethau: canllaw i ddysgwyr anabl ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- Sut i gael prentisiaeth
- Sut i ddweud wrth bobl am eich cyflwr
- Arian i helpu â chostau cynnal
- Cynllun Mynediad at Waith
Ewch i Prentisiaethau. Dewis Doeth i wybod mwy am brentisiaethau ac i weld fideos am brentisiaid.
Gwyliwch fideos ar sianel YouTube Engage To Change i ddarganfod mwy am y cymorth cyflogaeth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.
Cael help
Yma yn Cymru’n Gweithio, gall ein cynghorydd cyfeillgar eich helpu i fanteisio ar yr help a’r cyngor sydd eu hangen arnoch chi. Felly, gallwch deimlo’n hyderus ynghylch cael hyd i’r cyfle iawn i gael gwaith a dilyn gyrfa.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith