Ymunwch â’r gweithwyr proffesiynol sy’n cadw’r wlad i fynd.
Y sector trafnidiaeth a logisteg yw un o’r sectorau mwyaf yn y byd, sy’n cynnig llwyth o fathau gwahanol o yrfaoedd.
Fe allech fod ar y ffordd fawr (neu yn yr awyr neu ar y môr). Ond mae llawer o swyddi swyddfa sy’n ymwneud â symud pethau o un lle i’r llall hefyd, ac mae digonedd o gyfleoedd gyrfaol oherwydd bod y diwydiant trafnidiaeth mwyaf yn Ewrop yma, yn y Deyrnas Unedig. Gallech fod yn gweithio gyda’ch dwylo, mireinio’ch sgiliau gwerthu, neu’n cynllunio ffyrdd i weithrediadau redeg yn llyfn – a dim ond megis dechrau yw hyn.
Bydd galw mawr amdanoch chi
Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector trafnidiaeth a logisteg. Ar gyfartaledd mae bron i 4500 o swyddi gweigion yn cael eu postio ar-lein bob mis yng Nghymru. (LightcastTM, Ebrill i Medi 2022)
Y 10 prif swydd a hysbysebwyd ar-lein ym maes trafnidiaeth a logisteg dros y 6 mis diwethaf yw:
- Pobl sy’n Gyrru Faniau
- Galwedigaethau Storio
- Pobl sy’n Gyrru Cerbydau Nwyddau Mawr (HGV)
- Cynorthwywyr Cludo a Dosbarthu
- Hyfforddyddion Gyrru
- Rheolyddion mewn Storfeydd a Warysau
- Pobl sy’n Gyrru Tryciau Fforch Godi
- Pobl Eraill sy’n Gyrru a Gweithredyddion Trafnidiaeth
- Pobl sy’n Gyrru Bysiau
- Pobl sy’n Gweithio gyda’r Post a Phobl sy’n Cludo Nwyddau
(LightcastTM, Hydref 2022)
Mae galw mawr o hyd am bobl sy’n gyrru bysiau. Gyda 100 miliwn o deithiau bws yn rhedeg ledled Cymru, mae’r rôl hyn yn dod yn fwyfwy pwysig i fywydau pob dydd pobl.
Hyfforddiant i gyrraedd pen eich taith
ReAct+
Mae’r rhaglen ReAct+ yn anelu at helpu unigolion sydd wedi cael eu diswyddo neu sydd wedi bod yn ddi-waith neu rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant am gyfnod byr i ennill y sgiliau y mae cyflogwyr sy’n recriwtio yn chwilio amdanynt.
Rhaid i bob un sy’n ymgeisio am grantiau ReAct+ ofyn am gyngor a chanllawiau gan gynghorwyr gyrfa Cymru’n Gweithio. Bydd y cyngor a’r canllawiau hyn yn ystyried y farchnad lafur.
Gall y rhaglen ReAct+ ddarparu grant o hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol a hyd at £300 i helpu â chostau sy’n gysylltiedig â hyfforddiant, er enghraifft costau teithio. Mae cymorth ychwanegol ar gyfer costau gofal plant a chymorth datblygiad personol i ddileu rhwystrau i gyflogaeth hefyd ar gael.
Mae’r rhaglen ReAct wedi bod yn gweithredu ers 1999, ac mae’r rhaglen ddiweddaraf (o fis Ebrill 2015 i fis Mai 2022) wedi cefnogi 800 o bobl i gael trwydded cerbydau LGV ac wedi cefnogi i gaffael y Dystysgrif Cymhwystra Proffesiynol orfodol (Driver CPC).
Cyfrifon Dysgu Personol
Mae’r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol wedi ei chyflwyno i alluogi pobl sydd wedi’u cyflogi i uwchsgilio a chael sgiliau gwahanol ar gyfer sectorau â blaenoriaeth, i gryfhau eu sefyllfa yn y farchnad lafur ac i wella’u cyfleoedd am yrfa a chyflog. Yn benodol, mae’r rhaglen yn anelu at helpu pobl sy’n ennill cyflog is na’r cyflog canolrifol i gynyddu’u cyflogau.
Mae nifer o gyrsiau a chymwysterau logisteg a modurol yn cael eu cynnig, sy’n cynnwys cymhwyster Gyrru Cerbydau Nwyddau Lefel 2 (gan gynnwys categorïau trwydded C/C+E LGV). Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt o fewn Llywodraeth Cymru a thu hwnt er mwyn sefydlu sut y gall y cynnig Cyfrifon Dysgu Personol gefnogi’r prif sectorau â blaenoriaeth, gan gynnwys logisteg.
Rhagor o wybodaeth am Gyfrifon Dysgu Personol.
Rhaglen Prentisiaethau
Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau yn cynnwys rhai opsiynau sy’n canolbwyntio ar logisteg, un o’r rhain yw’r cymhwyster Lefel 2 a 3 mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau.
Yn gyffredinol, mae prentisiaeth yn y maes hwn yn cymryd rhwng 18-24 mis, gan ddibynnu ar amserlen hyfforddi a gallu’r unigolyn.
Edrychwch ar brentisiaethau gwag.
Lle i ddod o hyd i swyddi ym maes trafnidiaeth a logisteg
Os ydych yn credu mai swydd yn y maes trafnidiaeth a logisteg yw’r peth i chi, mae camau y gallwch eu cymryd:
- Edrychwch am gyfleoedd yn eich ardal leol – mae llawer o fusnesau yn hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed yn rhoi hysbysebion yn y ffenest
- Ewch o amgylch busnesau i gyflwyno’ch hun a gadael eich CV
- Cysylltwch â chynghorydd Cymru’n Gweithio am sgwrs am eich dyfodol
- Edrychwch am gyfleoedd a swyddi gwag ar y dolenni isod

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Cymerwch olwg ar y cyflogwyr sy’n recriwtio ar hyn o bryd. Dechreuwch chwilio am swydd yma.

Dewch o hyd i gyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau ym maes trafnidiaeth a logisteg, gan gynnwys gweithio mewn warysau, gyrru a llawer mwy.

Dewch i edrych ar y mathau gwahanol o swyddi y gallwch eu gwneud o fewn y maes trafnidiaeth a logisteg, gan gynnwys manylion am y swyddi, y cyflog, y cymwysterau a’r sgiliau angenrheidiol a llawer mwy.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni
Gwybodaeth i gyflogwyr
Os ydych yn gyflogwr, efallai y gallech chi hefyd gael cymorth.
Gall y cymorth sydd ar gael ymwneud â’r rhaglenni canlynol:
- Gall y rhaglen ReAct hefyd helpu cyflogwyr sydd yn dymuno recriwtio unigolyn cymwys gyda chymhorthdal cyflog o hyd at £3000, sy’n cael ei dalu mewn 4 rhandaliad dros gyfnod o 12 mis. Gall y rhaglen hon hefyd ddyfarnu grant sy’n gysylltiedig â’r swydd, sy’n hyd at 50% o’r gost o hyfforddi, a hyd at uchafswm o £1000 ar gyfer pob gweithiwr newydd. Ewch i React Busnes Cymru
- Mae Cyfrifon Dysgu Personol hefyd ar gael i gyflogwyr i’w helpu i wella sgiliau eu staff er mwyn helpu’r busnes i barhau’n gystadleuol, a hyd yn oed dod yn fwy cystadleuol, o gofio’r heriau deublyg yn sgil pandemig Covid-19 a phenderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae cyrsiau a chymwysterau sy’n cael eu cyflwyno drwy’r Cyfrifon Dysgu Personol wedi’u hardystio gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (RSP) er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r bylchau sgiliau presennol, neu’r bylchau sgiliau yn y dyfodol a’r sectorau sydd â blaenoriaeth yn rhanbarthol. Ewch i Cyfrifon Dysgu Personol Busnes Cymru
- Mae’r elfen hyfforddiant o’r rhaglen prentisiaethau yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r cyflogwr yn gyfrifol am gostau cyflog ac unrhyw ofynion hyfforddiant ychwanegol. Ewch i Prentisiaethau Busnes Cymru
- Mae Rhaglen Logisteg yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i’r cyflogwr unigol, a hynny ar sail asesiad o’u gofynion ar gyfer sgiliau mynediad. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu pecynnau cymorth a chyllid sy’n cael eu hasesu ar sail pob achos unigol
Archwilio

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Cewch wybod beth i'w ysgrifennu mewn llythyr cais neu e-bost.