Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Zoe

Zoe

Mae Zoe yn profi ei bod yn bosibl dilyn llwybrau gyrfa drwy droeon bywyd.

Profiadau bywyd

Cafodd Zoe o Abertawe ei magu gyda dawns a ffitrwydd o'i chwmpas ac mae'r dylanwad hwn wedi aros gyda hi drwy gydol ei hoes. “Roedd gan fy mam ei stiwdio dawns ei hun pan oeddwn i'n blentyn ac fe dreuliais lawer o fy mhlentyndod yn yr amgylchedd hwnnw”, meddai Zoe.

Dechreuodd Zoe fagu teulu pan oedd hi'n eithaf ifanc a chafodd dri o blant. Wrth i'w phlant dyfu'n hŷn daeth yn bryd i Zoe ailedrych ar ei dyheadau gyrfa.

Rhoi cynnig ar bethau newydd a chwblhau'r cylch

Dychwelodd Zoe i fyd addysg yn 2002 fel myfyriwr aeddfed a dilynodd gwrs mewn sgiliau cwnsela ond yna aeth ymlaen i astudio ar gyfer Gradd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar gan gymhwyso fel cynorthwyydd dosbarth yn 2005. Yna, aeth ymlaen i fod yn athrawes ysgol gynradd gan gymhwyso yn 2007.  Nid oedd yr amseru yn wych i Zoe oherwydd ar yr adeg honno roedd Cymru yn lleihau nifer y staff addysgu felly nid oedd yn gallu cael swydd addysgu barhaol.

Yn lle gadael i'w haddysg newydd fynd yn wastraff, llwyddodd Zoe i arallgyfeirio, gan ennill cymhwyster i addysgu Saesneg i fyfyrwyr tramor (TEFL) a chafodd swydd addysgu yn y maes yr oedd hi'n ei mwynhau yn fawr.

Fe wnaeth angerdd Zoe tuag at ddysgu ei harwain hi'n ôl at ei gwreiddiau a dilynodd gwrs Pilates. Yn 2009 cymhwysodd Zoe yn llawn fel hyfforddwr Pilates ac ers hynny mae wedi gweithio'n galed i adeiladu busnes hunangyflogedig llwyddiannus, gan ddarparu therapi Pilates amser llawn o ganolfannau cymunedol a neuaddau eglwys yn ardal Abertawe a'r cylch.

Newid mawr arall a chael help gan Cymru'n Gweithio

Mae Covid-19 a'r cyfyngiadau wedi golygu bod y lleoliadau yr oedd Zoe yn eu defnyddio ar gyfer ei dosbarthiadau wedi cau dros dro. Dywed Zoe “hyd yn oed pan ail-agorodd y lleoliadau, roedd llawer o'm cleientiaid yn hunanynysu.

“Roedd yn rhaid i mi wneud cais am Gredyd Cynhwysol a chysylltu â Gyrfa Cymru a gwasanaeth Cymru'n Gweithio i gael rhywfaint o gymorth cyflogaeth. Gweithiais gyda John o ganolfan Gyrfaoedd Abertawe a wnaeth fy nhywys drwy fy opsiynau gam wrth gam a rhoi gwybod i mi am gyllid y gallwn i ei gael i ymgymryd â mwy o hyfforddiant i wella fy sgiliau.

“Cwnsela yw fy niddordeb pennaf ond doeddwn i ddim wedi llwyddo i fynd yn bell iawn gyda hyn o'r blaen.  Mae fy nosbarthiadau Pilates wedi rhoi mwy o hyder i mi sefyll o flaen pobl ac roeddwn yn awyddus i ddefnyddio'r profiad hwn i ddatblygu fy sgiliau cwnsela.

Roeddwn i'n ddigon ffodus i ddod o hyd i gwrs hypnotherapi ym mis Ionawr ac mae wedi bod yn wych! Cwrs dysgu ar-lein yw hwn yn bennaf ond bydd yn cynnwys sesiynau mewn ystafell ddosbarth pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio, sy'n bwysig i mi gan fod yn llawer gwell gennyf ddysgu wyneb yn wyneb. Byddaf yn cwblhau'r cwrs ddiwedd mis Mehefin ac rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddefnyddio fy sgiliau newydd i helpu pobl gyda phob math o broblemau'n ymwneud â gorbryder.

“Rwyf wedi cael llawer o brofiadau bywyd sydd wedi dylanwadu arnaf. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gosod nodau a throi'r ffactorau na allwch eu rheoli i'ch mantais!”


Os ydych yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd ac os hoffech ymchwilio i’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, siaradwch ag aelod o staff all eich cynghori ar sut i drefnu apwyntiad. Gallwch chi neu eich rhiant, gwarchodwr neu ofalwr hefyd ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu drwy’r cyfleuster sgwrs fyw.

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.


Archwilio

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.