Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Millie

Millie

Galluogodd prentisiaeth Millie i adeiladu sylfaen gadarn ym myd adeiladu.

Ar hyn o bryd mae Millie, 20, yn gweithio fel goruchwylydd safle dan hyfforddiant ar safle adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd. Ond ychydig flynyddoedd yn ôl, ni fyddai hi byth wedi dychmygu pa mor bell y byddai hi wedi dod.

Cymorth gyda’r camau nesaf

“Roeddwn i’n cael cryn dipyn o drafferth gyda’r ysgol,” meddai Millie, “Byddwn i’n mynd i mewn ac yn cael fy anfon adref o fewn yr ychydig oriau cyntaf. Ond yna anfonodd fy ysgol fi at uned cyfeirio disgyblion, sy’n ysgol ymddygiad, a helpodd hynny fi’n fawr.”

“Wnes i ddim cael y canlyniadau TGAU roeddwn i wedi gobeithio eu cael. Cefais C mewn Ffotograffiaeth, ond nid yw peidio â chael y graddau rydych chi’n eu disgwyl yn ddiwedd y byd.”

Er na chafodd Millie y canlyniadau yr oedd hi’n gobeithio eu cael, cafodd gymorth gan ei hysgol a chynghorydd Gyrfa Cymru, a’i helpodd i edrych ar opsiynau sydd ar gael a chynllunio ei chamau nesaf.

“Bryd hynny, roeddwn i yn yr un man. Roeddwn i’n sgrolio ar fy ffôn pan ddes i ar draws gosod brics ac roedd gen i ddiddordeb, felly meddyliais ‘Rydw i eisiau gwneud hyn’! Dyna pryd y gwnaeth fy nghynghorydd gyrfa fy helpu i roi fy nghais i’r darparwr hyfforddiant.”

Magu ei hyder

Gyda chymorth y darparwr hyfforddiant lleol, darganfu Millie brentisiaethau mewn adeiladu a chafodd ei chofrestru ar y rhaglen. Drwy gyfuniad o ddysgu seiliedig ar waith a phrofiad ar safle Canolfan Ganser newydd Felindre datblygodd sgiliau newydd, enillodd gymwysterau diwydiant a dod o hyd i’w hangerdd dros y sector adeiladu.

Rhoddodd y brentisiaeth gyfle i Millie adeiladu ei gwybodaeth, ymgymryd â chyfrifoldebau newydd a symud yn ei blaen o fewn y diwydiant. Aeth ymlaen i gwblhau ystod o gymwysterau a datblygu ei gyrfa o lafurwr i oruchwylydd safle dan hyfforddiant.

“Gwnaeth Gyrfa Cymru lawer i’m helpu, fe wnaethon nhw fy arwain a’m cynorthwyo. Yna daeth cyfle i fyny am gyfweliad yma yn Optimum. Gwnaethon nhw ddod a fi yma i Ganolfan Ganser newydd Felindre, fe wnes i’r cyfweliad a thair awr yn ddiweddarach cefais alwad ffon yn dweud fy mod i wedi cael y swydd.”

“Mae’n teimlo’n anhygoel, oherwydd weithiau dw i’n brin o hyder i gredu y gallaf i wneud pethau. Ond rydw i wedi mynd o fod yn lafurwr i fod yn oruchwyliwr safle dan hyfforddiant yn 20 oed, ac mae hynny’n eithaf trawiadol i mi.”

Arwain y ffordd

Mae Millie yn deall pwysigrwydd ei rôl ac yn falch o fod yn paratoi’r ffordd i ferched eraill mewn diwydiant sydd fel arfer yn cael eu dominyddu gan ddynion. Mae hi’n dweud bod ei phenderfyniad a’i gwaith caled, ochr yn ochr â’r gefnogaeth gywir, wedi ei helpu trwy’r sefyllfaoedd anodd y mae wedi’u hwynebu.

“Os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn aros yn benderfynol, gyda’r gefnogaeth gywir, gallwch chi wneud beth bynnag rydych chi ei eisiau.”

Gyda phobl ifanc ledled Cymru yn aros am eu canlyniadau’r haf hwn, mae Millie yn awyddus i sicrhau nad ydyn nhw’n poeni nac o dan bwysau gormodol am eu graddau.

“Nid canlyniadau sy’n eich diffinio chi. Nid cael y canlyniadau yr oeddech chi’n gobeithio eu cael yw’r unig lwybr – mae yna lawer o wahanol ffyrdd o gychwyn eich gyrfa.”

Fel Millie, dim ond dechrau eich pennod nesaf yw eich canlyniadau.

Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â’ch cam nesaf, peidiwch â phoeni – rydyn ni yma i helpu. P’un a ydych chi’n ystyried mynd i brifysgol, dilyn prentisiaeth, hyfforddiant neu ddod o hyd i gyflogaeth, gallwn ni eich helpu i edrych ar opsiynau ac i ddeall beth sy’n dod nesaf.

Cysylltwch â ni heddiw am gyngor a chymorth am ddim wedi’u teilwra i chi.

Archwilio

Opsiynau a chefnogaeth ôl-16

Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.

Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn caniatáu i chi ennill wrth i chi ddysgu. P'un ai ydych chi'n dechrau neu'n meddwl am newid gyrfa, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r cyfle cywir.