Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Mike

Mike

Cymorth CV yn sicrhau swydd i Mike fel gweithiwr allweddol 

Teimlo'n ansicr

Roedd Mike wedi cyrraedd croesffordd yn ei fywyd ac yn ansicr pa gamau i’w cymryd ar ôl iddo golli ei swydd.  Gyda chefnogaeth gan Cymru’n Gweithio i lunio CV a gwneud cais am swydd, llwyddodd i gael gwaith yn y sector gofal.

 

“Rwyf wedi cael amrywiaeth o swyddi yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ond heb gael boddhad, ac er fy mod yn chwilio am waith, nid oeddwn yn sicr pa ddiwydiant neu waith oedd yn iawn i mi.

“Roeddwn wedi cyrraedd y pen, ac angen cefnogaeth a chymorth ymarferol; ac oherwydd mai sylfaenol iawn oedd fy sgiliau cyfrifiadurol, roeddwn angen cymorth i ddrafftio CV.

Cael cefnogaeth gan Cymru’n Gweithio

“Deuthum yn ymwybodol o Gyrfa Cymru am y tro cyntaf yn 2005 pan gefais fy niswyddo o’r diwydiant yswiriant, swydd yr oeddwn wedi bod  ynddi am 10 mlynedd, ac yn ei mwynhau.

“Rwy’n cofio sut y bu iddynt roi cymorth i mi flynyddoedd yn ôl i ymdopi gyda’m diswyddiad, felly penderfynais ymweld â’r ganolfan Gyrfa Cymru leol, i weld a oedd modd iddynt roi cymorth i mi unwaith eto.

“Cwrddais â Hyfforddwr Cyflogaeth, Louise, sy’n gweithio i wasanaeth Cymru’n Gweithio, a llwyddodd i asesu fy anghenion yn effeithiol, gan gymryd yr amser yn y fan a’r lle i’m helpu i ailysgrifennu fy CV, a gwneud cais am swydd yn y sector gofal yr oedd gennyf ddiddordeb ynddi.

Dechrau o’r newydd

Gyda chymorth Louise llwyddodd Mike i ddrafftio ei CV, gwneud cais, ac yn y pen draw sicrhau’r swydd yr oedd ganddo ddiddordeb  ynddi, ac mae’n mwynhau ei waith fel gyrrwr cyflenwi fferyllfa.

“Roedd y cymorth ymarferol a ddarparwyd gan Louise yn ardderchog.  Roedd yn gyfeillgar, yn llawn gwybodaeth, a rhoddodd gymorth i mi gyda fy anghenion penodol yn y fan a’r lle, felly roedd yn broses hawdd a chyflym.  Roedd ei chefnogaeth mor amserol o werthfawr oherwydd fel arall, gallwn fod wedi colli’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y swydd.

“Yn yr hinsawdd bresennol, rwy’n teimlo fy mod yn medru bod o gymorth, ac mae wedi rhoi dogn o hunan hyder i mi.  Rwy’n hynod o falch o gael gwaith mewn swydd rydw i’n ei mwynhau, ac mae’n gwneud i mi asesu fy nyfodol gyrfa hir dymor."

Byddwn yn argymell gwasanaeth Gyrfa Cymru a Cymru’n Gweithio 100%. Mae’r staff yn gymwynasgar ac yn broffesiynol iawn, ac rwyf wedi cael profiad cadarnhaol iawn gyda chanlyniad gwych."


Archwilio

Sut mae ysgrifennu CV

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Cael swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.