Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Mason

Mason

Mason yn sicrhau prentisiaeth ac yn teimlo’n hyderus ynglŷn â’i gamau nesaf ar ôl TGAU.

Wrth i ddiwrnod y canlyniadau agosáu, teimlai Mason yn ansicr ynghylch beth fyddai ei opsiynau ar ôl gadael yr ysgol.

Dywedodd Mason, “Ar y dechrau, roeddwn i’n teimlo’n gyfyngedig iawn. Roeddwn i’n meddwl mai coleg oedd yr unig opsiwn i fi, er fy mod i eisiau gwneud prentisiaeth.”

Dod o hyd i’r hyder i ofyn am gefnogaeth

Cyfarfu Mason â Rebecca, y cynghorydd gyrfa yn ei ysgol. Gyda’i gilydd, buont yn siarad am ei ddiddordebau a pha opsiynau oedd ar gael ar ôl gadael ysgol. Rhannodd Mason mai ei nod un diwrnod oedd i weithio ym maes gwasanaeth cyhoeddus.

Dywedodd Mason, “Rydw i wastad wedi bod eisiau gwneud prentisiaeth. Ceisiais i ddod o hyd i gyfleoedd ar-lein a gwneud cais ar fy mhen fy hun, ond doeddwn i ddim yn llwyddiannus.”

Fe wnaeth Rebecca ei helpu i nodi a chwilio am brentisiaethau a oedd yn cyd-fynd â’i ddiddordebau. Gwnaeth ei annog hefyd i wneud cais am gyfleoedd na fyddai efallai wedi’u hystyried ar ei ben ei hun.

Gwnaethon nhw gydweithio i chwilio am brentisiaethau a gwneud cais amdanynt, gan gadw coleg fel opsiwn wrth gefn hefyd.

Dywedodd Mason, “Gwnaeth Rebecca fy helpu’n fawr i gyfyngu pethau a dod o hyd i brentisiaethau y gallwn i wneud cais amdanynt.

“Helpodd fi i fod yn fwy agored yn lle cadw popeth i mi fy hun.”

Cymryd camau tuag at ei nod

Parhaodd Mason i wneud cais am brentisiaethau gyda mwy o hyder, gyda chefnogaeth ac anogaeth barhaus gan Rebecca. Roedden nhw’n cwrdd yn rheolaidd ac yn rhannu gwybodaeth am gyfleoedd prentisiaeth.

Yn dilyn hyn, sicrhaodd Mason brentisiaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), lle bydd yn gweithio yn yr adran pensiynau.

Dywedodd Mason, “Mae hwn yn gyfle da i mi dyfu ac i ddatblygu fy sgiliau.

“Rwy’n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth da iawn. Rwy’n bendant yn teimlo bod dyfodol disglair o’m blaen i nawr.”

Ei gyngor i eraill

Mae Mason eisiau i bobl ifanc eraill wybod bod cefnogaeth ar gael a bod mwy nag un llwybr.

Dywedodd, “Fe wnaeth cael y gefnogaeth agor fy opsiynau ar gyfer yr hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.

Archwilio

Opsiynau a chefnogaeth ôl-16

Beth bynnag yw'ch cam nesaf – mynd i'r coleg, prifysgol, cael swydd, dechrau prentisiaeth neu redeg eich busnes eich hun – rydyn ni yma i'ch helpu i ddewis y llwybr sy'n iawn i chi.

Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn caniatáu i chi ennill wrth i chi ddysgu. P'un ai ydych chi'n dechrau neu'n meddwl am newid gyrfa, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r cyfle cywir.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni