Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Jacob

Jacob yn chwarae pêl-droed

Mae Jacob ar y trywydd iawn i ddilyn ei yrfa ddelfrydol.

Dechrau anodd

Roedd Jacob, 18 oed o Gasnewydd, yn ffeindio bywyd ysgol yn anodd oherwydd bwlio. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed heb ddim TGAU ac ychydig iawn o syniad o’r hyn yr oedd eisiau ei wneud nesaf.

Dywedodd Jacob, sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed, “Doeddwn i wir ddim yn gwybod beth i’w wneud. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd fy opsiynau na sut i gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod. Roedd yn gyfnod anodd iawn i mi.”

Ac yntau 'n awyddus i helpu, cysylltodd tad Jacob â Cymru’n Gweithio i gael gwybod beth oedd opsiynau ei fab. Ar y pryd, roedd Jacob yn ystyried gyrfa yn y fyddin, a gyda chefnogaeth bersonol gennym ni, roedd yn gallu gwneud cais i goleg milwrol - lle cafodd ei dderbyn.

Dywedodd Jacob, “Roeddwn i’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Cymru’n Gweithio ar adeg mor anodd. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael ail gyfle ac yn  obeithiol am fy nyfodol am y tro cyntaf.”

Newid cyfeiriad

Yn y pen draw, penderfynodd Jacob nad oedd am ddilyn gyrfa yn y fyddin.

“Pan darodd y pandemig COVID-19, a phan aethom i’r cyfnod clo, roedd gen i amser i fyfyrio, a sylweddolais nad oedd bywyd yn y fyddin yn addas i mi. Fodd bynnag, roedd y gefnogaeth gan Cymru’n Gweithio yn rhoi’r hyder i mi ddilyn fy ngyrfa ddelfrydol – pêl-droed!”

Mae Jacob nawr yn astudio gyda Sefydliad Dinas Caerdydd gyda’r gobaith o fod yn bêl-droediwr neu’n hyfforddwr pêl-droed. Bydd ei hyfforddiant yn ei arwain at radd, rhywbeth nad oedd yn meddwl y byddai’n gallu ei wneud heb TGAU. Fe wnaeth Cymru’n Gweithio ei helpu i sylweddoli nad oedd hynny’n wir a bod llawer o gyfleoedd ar gael iddo o hyd i ddilyn llwybr gyrfa.

“Mae bywyd gymaint yn well nag yr oeddwn i’n meddwl y gallai fod,” meddai.

“Mae gen i hyder ynof i fy hun oherwydd y cymorth rwy’n ei gael ar hyd y ffordd, ac os byddaf yn newid fy meddwl eto neu’n dod ar draws unrhyw beth anodd, rwy’n gwybod y gallaf droi at Cymru’n Gweithio i gael y cymorth sydd ei angen arnaf.”

Os ydych chi, fel Jacob, eisiau dod o hyd i’ch llwybr gyrfa ar ôl gadael yr ysgol, cysylltwch â ni.


Archwilio

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.